Mae rhai o feddylwyr addysgol mwyaf blaenllaw’r byd wedi dod at ei gilydd i gefnogi gwella ysgolion yng Nghymru.

Mae Comisiwn Addysg Cymru wedi cael ei sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i helpu hwyluso gwelliannau mewn dysgu ac addysgu.

Gofynnwyd i’r aelodau, pob un â’i record o lwyddiant eithriadol yn eu meysydd eu hunain, i roi sylwadau ar bolisi addysg; blaenoriaethau ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion; a’r gwaith sydd ei angen i sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir yn llwyddo i gyflawni eu potensial.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru; Carol Campbell, Athro Addysg OISE ym Mhrifysgol Toronto; Paul Collard, Prif Weithredwr Creadigrwydd, Diwylliant ac Addysg; Yr Athro Trevor Gale, Deon yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Glasgow; Laura Perille, Prif Weithredwr Edvestors sydd wedi’i leoli yn Boston, UDA; Amy Sanders, Cyfarwyddwr Dynamix, Abertawe; Iram Siraj, Athro mewn Addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain; Mick Waters, Athro Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton; David Woods, Athro Addysg ym Mhrifysgolion Warwick a Llundain; a’r Athro Jim Ryan, Deon Ysgol Addysg i Raddedigion, Prifysgol Harvard, yng Nghaergrawnt, Massachusetts.

Bydd y Comisiwn yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn i ystyried materion o bwys sy’n wynebu’r gymuned addysg yng Nghymru ac mae’n elfen allweddol o ddatblygiad Yr Athrofa o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Bydd y Comisiwn yn gweithredu fel “cyfaill beirniadol” i Lywodraeth Cymru ac addysgwyr ar draws pob sector, gan hwyluso trafodaeth a chefnogi agenda uchelgeisiol gwella ysgolion Cymru.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Comisiwn yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd yn gynharach y mis hwn wrth i’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer system addysg Cymru mewn araith bwysig i randdeiliaid allweddol.

Roedd yn dilyn anerchiad tebyg ym mis Medi, pan wnaeth Ms Williams alw ar brifysgolion i gyflawni  eu “cenhadaeth genedlaethol” drwy weithio gydag ysgolion, diwydiant a phartneriaid rhyngwladol i godi safonau.

Siaradodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n gweithredu fel cadeirydd y Comisiwn, am agenda uchelgeisiol y grŵp.

Dywedodd: “Rwy’n ystyried sefydlu Comisiwn Addysg Cymru yn ddatblygiad allweddol yn niwygiad parhaus ein system addysg.

“Mae’r cyfoeth o arbenigedd rhyngwladol rydym wedi ei ddwyn ynghyd yma yng Nghymru yn ein galluogi i fyfyrio’n feirniadol, mewn modd arloesol, am y datblygiadau priodol sydd eu hangen ar ein system addysg.

“Fel cenedl, mae angen i ni gymryd perchnogaeth o’r newidiadau yma. Mae ansawdd ein system addysg a’r angen i sicrhau cyfleoedd cynhwysol i bobl ifanc yng Nghymru, yn fy marn i, yn uwch na gwleidyddiaeth pleidiau gwleidyddol.

“Dyna’r rheswm y mae gan brifysgolion rôl i’w chwarae. Rwy’n falch o’r ffaith fod gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant draddodiad hir-sefydlog yn yr ardal hon.

“Mae angen i ni adeiladu dyfodol lle mae rhagoriaeth, cyfleoedd ac ymchwil proffesiynol o ansawdd uchel yn dod ynghyd i gyflawni dros Gymru.

“Rwyf wrth fy modd gyda’r gefnogaeth a ddarperir gan y grŵp nodedig hwn o unigolion, pob un ohonynt wedi ennill parch aruthrol am eu cyfraniadau i wella addysg drwy eu gwaith eu hunain.

“Wrth ddod â’r unigolion allweddol hyn at ei gilydd, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dangos ei haddewid i ddarparu system o ansawdd ar gyfer Cymru.

“Ni ddylem danbrisio pwysigrwydd strategol sefydlu Comisiwn o’r math yma lle gall ysgolheigion ac addysgwyr weithio gydag ysgolion a’r proffesiwn addysgu rhyngwladol i hyrwyddo ein harlwy nodedig.”

Mae’r Comisiwn yn addo defnyddio tystiolaeth gan dystion arbenigol yng Nghymru a thu hwnt gan gyflwyno cyfres o adroddiadau agored i’r gymuned addysg yn seiliedig ar eu sylwadau.

Dywedodd yr Athro Dylan Jones, ysgrifennydd y Comisiwn a Chyfarwyddwr yr Athrofa: “Mae’r cyfle i ddysgu gan grŵp mor dalentog a llwyddiannus o addysgwyr yn amhrisiadwy.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddadleuon heriol sy’n ysgogi’r meddwl a fydd yn cael effaith ar ddarparu addysg a chyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru.”