Mae astudiaeth newydd wedi dangos bod athrawon yng Nghymru yn fwy tebygol o ddefnyddio eu mannau awyr agored ar gyfer dysgu cwricwlwm-gysylltiedig na’u cymheiriaid yn Lloegr.
Mae ymchwilio i amcanion proffesedig dysgu awyr agored yn ystod y blynyddoedd cynnar gan athrawon o Loegr a Chymru wedi darganfod nifer o wahaniaethau rhwng y ddwy wlad.
Gwnaeth ddangos bod athrawon yng Nghymru yn cyfeirio’n fwy sylweddol at amcanion sy’n ymwneud â llythrennedd a rhifedd ar gyfer eu darpariaeth awyr agored nag athrawon o Loegr.
I’r gwrthwyneb, gwnaeth cyfran fwy o athrawon yn Lloegr ddyfynnu deilliannau dysgu a oedd yn bersonol, yn gymdeithasol ac yn anianol.
Datblygiad corfforol oedd yr amcan darpariaeth awyr agored a gafodd ei ddyfynnu fwyaf aml yn y ddwy wlad.
Cafodd astudiaeth o’r enw – Pam Mynd â Phlant Ifanc y Tu Allan? Ystyriaeth Feirniadol o Amcanion Proffesedig Dysgu Awyr Agored yn ystod y Blynyddoedd Cynnar gan Athrawon o Loegr a Chymru – ei hymgymryd gan Dr Jane Waters, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Dr Helen Bilton, o Brifysgol Reading.
Tynnwyd ei chasgliadau o arolwg ar-lein a anfonwyd at 350 o ysgolion yn Lloegr ac at 353 o ysgolion ychwanegol yng Nghymru – gwnaethant ddangos cyfradd ymateb o 184 a 79 yn y drefn honno– a chawsant eu cyfeirio at athrawon plant rhwng pedair a phum mlwydd oed sydd wedi ennill statws athro cymwysedig (SAC).
Dywedwyd yn y papur: “nad yw’n peri syndod o gwbl mai datblygiad corfforol yw’r amcan a gaiff ei ddyfynnu’n fwyaf aml ar gyfer cynnal darpariaeth awyr agored yn y ddwy wlad, ond mae’n arwyddocaol bod atebwyr o Gymru wedi cyfeirio llawer mwy, wrth drafod eu darpariaeth awyr agored, at amcanion sy’n gysylltiedig â llythrennedd a rhifedd na wnaeth atebwyr o Loegr.
“Cafodd y gwahaniaeth hwn ei adlewyrchu mewn ffordd debyg yn y deilliannau dysgu a ddarparwyd gan atebwyr; dim ond ychydig yn llai nag un rhan o bump o ddeilliannau dysgu Lloegr oedd yn ymwneud â dysgu sy’n gysylltiedig â llythrennedd a rhifedd, o gymharu â bron â bod traean o’r ymatebion o Gymru.”
“Mae hefyd yn nodedig bod dros un rhan o bump o’r athrawon o Loegr a oedd yn y sampl wedi dweud nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng dysgu plant yn yr amgylchedd dan do a’r amgylchedd awyr agored, o gymharu â dim ond bron â bod 2% o’r ymatebion o Gymru a wnaeth ddangos yr un peth.
“Mae hefyd yn ddiddorol nodi, er gwaethaf y ffaith bod athrawon o Loegr a Chymru yn cyfeirio i raddau tebyg at amcanion personol, cymdeithasol ac anianol (tua un rhan o bump o’r ymatebion), gwnaeth cyfran lawer mwy o athrawon o Loegr ddyfynnu deilliannau dysgu sydd â chysylltiadau personol, cymdeithasol ac anianol (dros 40%) nag athrawon o Gymru (llawer yn llai na thraean o’r ymatebion).”
Gwnaeth yr adroddiad gyfeirio at adroddiadau eraill a ysgrifennwyd yn y D.U sy’n ystyried dysgu awyr agored ar draws pob cyfnod oedran, er bod dargyfeiriad diweddar sydd wedi digwydd i bolisi’r Llywodraeth wedi cael effaith amlwg.
Dywedodd yr adroddiad bod “newid sylweddol wedi digwydd yn ystod y bum mlynedd diwethaf rhwng Lloegr a Chymru , gyda’r ail wlad yn dangos mwy o ddiddordeb Llywodraethol yn yr amgylchedd awyr agored, a’r cyntaf yn dangos llawer llai.
“Mae cyfeirio at yr awyr agored wedi lleihau yn sylweddol yn fframwaith mwyaf diweddar Lloegr, ac nid oes hyd yn oed disgwyl bod rhaid darparu man awyr agored sy’n gysylltiedig â’r ystafell ddosbarth, dim ond mynediad yn unig at yr awyr agored.
“Yng Nghymru, mae’r pwyslais ar ddefnyddio’r amgylchedd awyr agored fel adnodd ar gyfer dysgu plant yn ystod y blynyddoedd cynnar, fel yr amlinellir yn nogfennaeth Cyfnod Sylfaen 2008, wedi’i ddatblygu a’i gefnogi yn ystod y blynyddoedd cyfamserol gan ddeunydd cyfarwyddyd dilynol.
“Y mae disgwyl ar draws Cymru bod pob plentyn yn cael defnyddio’r awyr agored yn rheolaidd fel rhan annatod o’i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.”
- Cyhoeddir yr astudiaeth hon yn y cyfnodolyn academaidd ar-lein Social Sciences, a gellir gweld y fersiwn gyflawn drwy fynd at http://www.mdpi.com/2076-0760/6/1/1