Canolbwynt gweithdy diweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad  a Datblygiad Economaidd (OECD), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd cryfhau ymchwil mewn addysg athrawon. Dyma Elaine Sharpling yn adfyfyrio ar gyfarfod cynhyrchiol rhwng pobl o’r un bryd…

 

Roedd y gweithdy OECD diweddar yng Nghaerdydd yn sicr yn brofiad buddiol. Bu cyd addysgwyr athrawon o’r gymuned ryngwladol yn arwain cyfres o weithdai a chwiliai am ffordd ymlaen i ddatblygu ymchwil addysg yng Nghymru.

Bydd yn rhaid aros am flog arall  i glywed am gynnwys a chanlyniad y gweithdai hyn oherwydd yn gyntaf hoffwn rannu’r gwersi a ddysgwyd o un o’r ffyrdd o weithio.

Ar yr ail ddiwrnod o dri, a gynhaliwyd yn y storfa rawn llawn awyrgylch yng nghrombil Castell Caerdydd, fe’n rhannwyd yn grwpiau a rhoddwyd amrywiol destunau i ni eu trafod.

Roeddwn i’n ffodus i gael fy newis cyntaf o destun sef ‘Cysylltu Theori ag Arfer’. Wedi i aelodau’r grŵp gael eu rhyddhau o dywyllwch y storfa rawn i oleuni Ystafell Dumfries, gosodwyd tasg iddynt i ddod o hyd i ffordd o ddod â’r ddau begwn, theori ac arfer, sydd yn aml yn ddigyswllt, yn agosach at ei gilydd fel eu bod hyd yn oed yn bwydo i’w gilydd.

Dechreuodd y dasg mewn ffordd eithaf traddodiadol wrth i ni gael ein rhannu’n barau a gofynnwyd i ni roi gwybod ychydig o ffeithiau amdanom ni ein hunain a’r rhesymau pam yr oeddem yn mynychu’r gynhadledd.

Fel sy’n nodweddiadol yn sesiynau’r OECD, cafwyd tro yng nghynffon y gweithgarwch hwn wrth i ni orfod cyflwyno ein gilydd, a oedd yn fesur o ba mor dda yr oeddem yn gwrando yn ogystal â gallu siarad – gwelwyd maes o law bod hyn yn dipyn o thema a dof yn ôl at hynny’n ddiweddarach.

Yna rhoddwyd papur, pennau ysgrifennu a phapur nodiadau gludiog i ni a gofynnwyd i ni ddod o hyd i resymau pam nad oedd theori ac arfer addysgol yn cyd-dynnu’n dda iawn. A ninnau bellach wedi torri’r garw’n llwyddiannus, gweithiodd pob pâr yn dda gyda chymorth hwyluswyr yr OECD.

I gadw’r meddwl creadigol i fynd, fe wnaethom ni gyfnewid partneriaid, ychwanegu at nodiadau a thrafodaethau ein gilydd, gan weithio ar y diwedd  mewn grwpiau o dri. Nodweddion arferol gwaith grŵp, felly.

Yna daeth y newid rhyfedd ond effeithiol i’n ffordd o ddysgu. Gludwyd taflenni anodedig y papur siart troi i’r wal a gofynnwyd i ni ystyried y syniadau a nodwyd gan y parau gwahanol.

Y cyfarwyddiadau a roddwyd i ni oedd ychwanegu rhagor o nodiadau, saethau neu ddiagramau ar draws y tri darn o bapur. Fodd bynnag roedd yn rhaid gwneud hyn mewn tawelwch.

Felly, yn dilyn sgwrs ddwys fel grŵp am ryw 20 munud, roeddem nawr yn wynebu cyfnod dwys o adfyfyrio. Yn araf ac yn bwrpasol, aeth aelodau’r grŵp ati yn eu tro i ychwanegu haen ychwanegol o feddwl i’r syniadau cychwynnol.

Tynnwyd saethau i gysylltu syniadau oedd gynt yn ddigyswllt, ysgrifennwyd geiriau ychwanegol i gyfoethogi ymadroddion a defnyddiwyd tanlinellu i amlygu pwysigrwydd.

Yn ystod y cyfnod hwn o dawelwch, yr hyn a’m tarodd i oedd nid yn unig ansawdd y meddwl ond y ddealltwriaeth gymdeithasol sydd ei hangen ar gyfer y math hwn o weithgarwch.

Mae cymryd tro yn rhywbeth yr ydym yn ei addysgu’n aml i blant ifanc gan fod ein cymdeithas yn rhoi gwerth ar haelioni, tegwch ac ysbryd cyd-dynnu.

Mae’n sgil bywyd sy’n angenrheidiol ar gyfer llwyddiant cymdeithasol mewn nifer o amgylcheddau gwahanol. Roeddem yn cymryd ein tro mewn modd mor soffistigedig nes bod pob person, hyd yn oed mewn tawelwch, yn cael cyfle i gyfrannu ac ni wnaeth pennau marcio neb daro yn erbyn ei gilydd wrth iddynt frysio i ysgrifennu!

Tybed pa ymddygiadau cymdeithasol eraill sydd wedi ymwreiddio cymaint fel nad ydym bellach yn cydnabod eu bod yn cael eu dysgu. Efallai y byddai’n ddiddorol i athrawon ystyried sut a pham mae cydymffurfio cymdeithasol yn nodwedd o fywyd ysgol.

Yn dilyn cyfnod sylweddol o dawelwch, newidiodd ein harbenigwr o’r OECD yr arddull dysgu eto gan gymryd y pen ysgrifennu a’r awenau. Gyda chryn ddirnadaeth, grwpiodd y cymysgwch o syniadau yn dri thestun rhesymegol a oedd yn gwneud synnwyr perffaith. Gwych.

Canlyniad y dasg grŵp oedd, er bod ‘theori’ yn gysylltiedig yn draddodiadol â maes y brifysgol ac ‘arfer’ â maes yr ysgol, roedd angen adeiladu pontydd fel y gallai’r ddau fwydo i’w gilydd. Enghraifft o hyn oedd y syniad o gael y ddau faes arbenigedd i ddatblygu ymchwil agos-at-arfer .

Afraid dweud, cyfoethogwyd y gwaith grŵp gan bresenoldeb yr Athro Graham Donaldson, a soniodd am yr angen am iaith a geirfa gyffredin rhwng yr arbenigwyr theori ac arfer. Yn hyn o beth, a allai’r safonau proffesiynol newydd fod yn fan cychwyn?

I gloi, cafodd taith ddysgu, a allai fod wedi bod yn un eithaf cyffredin o ran gweithrediad, ei gwneud  yn un eithaf arbennig trwy wrando gofalus, trafodaeth amrywiol a chyfnod gwerthfawr o dawelwch.

Beth am roi cynnig arni?…

  • Mae Elaine Sharpling yn Gyfarwyddwr Gweithredol Addysg Gychwynnol Athrawon yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply