Roedd yn bleser mawr gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant groesawu’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i’r Athrofa yn y brifysgol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth.

Cwrddodd Ysgrifennydd y Cabinet ag athrawon dan hyfforddiant ar gampws Townhill y brifysgol a chymerodd ran mewn sesiwn holi ac ateb fyw gyda myfyrwyr, staff a chydweithwyr mewn ysgolion.

Hefyd yn ystod ei hymweliad rhoddwyd diweddariad iddi hithau ynghylch dull newydd radical y brifysgol ym maes addysg athrawon gan yr Is-Ganghellor yr Athro Medwin Hughes a’r Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa.

Gan annerch y myfyrwyr, meddai Ysgrifennydd y Cabinet: “Gyda’n gilydd rydym yn gyfrifol am sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf. Chi yw’r genhedlaeth newydd o athrawon, y gweithredwyr newid, sy’n newid bywydau ac yn gwneud gwahaniaeth.

“Fyddwn i ddim yn sefyll yma heddiw oni bai am f’athro hanes. Newidiodd yntau fy mywyd i. Gwelodd ef rywbeth ynof i ac roedd hwnnw wedi fy sbarduno i wneud rhywbeth. Mae gennych chi’r cyfle i wneud yn union yr un peth hefyd.”

Cyflwynir gweledigaeth uchelgeisiol y brifysgol i rymuso athrawon a chefnogi ysgolion i ddatblygu’r gweithlu addysg drwy dri llinyn craidd yr Athrofa – Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA); Canolfannau Ymchwil ac Arloesi; a Chomisiwn Addysg Cymru – sy’n adeiladu ar hanes balch addysg athrawon yn ne-orllewin Cymru.

Cafodd y PDPA, a luniwyd ar sail parch cydradd a chyd-atebolrwydd, ei sefydlu gyda grŵp o 120 o ysgolion ledled Cymru ac mae wedi ail-ddiffinio’r modd y gellir darparu addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu proffesiynol.

Y canlyniad clir fydd datblygu cwricwlwm AGA newydd, gyda’r brifysgol ac ysgolion partner yn gyfrifol ar y cyd am lunio a darparu’r holl raglenni hyfforddi.

Mae’n wyriad radical oddi wrth ddulliau addysg athrawon mwy traddodiadol ac mae’n dilyn cyfarwyddyd clir gan Ms Williams bod angen i system AGA Cymru newid.

Meddai’r Athro Jones: “Roedd yn bleser mawr gennym ni groesawu ail ymweliad gan Ysgrifennydd y Cabinet, a gadawodd ei chyflwyniad ysbrydolgar y rheini oedd yn bresennol heb unrhyw amheuaeth ynghylch ei hymrwymiad i athrawon wrth eu gwaith ac athrawon y dyfodol.

“Mae hi wedi galw am ailwampio AGA yng Nghymru ac rydym yn cydnabod rôl bwysig prifysgolion, mewn partneriaeth ag ysgolion, o ran codi safonau.

“Mae’n hanfodol fod gan athrawon y presennol a’r dyfodol y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru – a bydd gwella ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant sydd ar gael yn hanfodol.

“Ceir potensial aruthrol yn system addysg Cymru ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i ysgogi newid cadarnhaol a grymuso ysgolion er lles yr holl ddysgwyr.

“Mae’r PDPA wedi ymateb yn gadarnhaol i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ac AGA, gydag ysgolion wrthi’n cynllunio cwrs newydd a chyffrous ar gyfer athrawon y presennol a’r dyfodol.

“Rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet ac i’r Athro Graham Donaldson, sydd hefyd wedi ymweld â ni, am gymryd amser o’u hamserlenni prysur i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth gyda negeseuon cadarn a chadarnhaol o gyfle a chefnogaeth.”

Meddai’r Athro Hughes: “Roedd yn bleser groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i annerch ac i ymgysylltu â’n hathrawon dan hyfforddiant ac i roi diweddariad iddi ar ein cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r brifysgol yn falch o’i hanes cyfoethog mewn addysg athrawon a, thrwy ein Hathrofa newydd, edrychwn ymlaen at adeiladu gwaddol newydd a chyffrous.

“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau – ac ystyriwn mai cenhadaeth ein cenedl yw defnyddio’r cryfder sy’n bodoli yn system addysg Cymru a’r tu hwnt er budd yr holl ddysgwyr.

“Mae pobl ifanc Cymru yn haeddu’r addysg orau ac mae athrawon Cymru yn haeddu’r gefnogaeth orau bosibl. Dyna fydd flaenllaw yn ein meddyliau wrth inni symud ymlaen at ein pennod nesaf.”

Leave a Reply