Blog

Mae addysg a gofal cymdeithasol wedi’u hadeiladu ar berthnasoedd gwaith cryf a’r gallu i ymateb i’n hanghenion ein gilydd. Ond mae a wnelo bywyd llawer iawn mwy na hynny. Yma, mae Paul Darby, darlithydd prifysgol a myfyriwr doethurol, yn adfyfyrio ar rym cariad proffesiynol ar ei holl weddau…


Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn siarad gyda fy myfyrwyr blynyddoedd cynnar ynghylch cysyniad newydd i mi, sef cariad proffesiynol. Roedd meddwl am drafod y pwnc hwn ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yn teimlo fymryn yn chwithig ac roeddwn yn nerfus wrth feddwl am gyflwyno’r pwnc. Roeddwn yn addysgu grŵp o israddedigion sy’n cael eu hannog yn gyffredinol i ddatblygu dulliau dadansoddi beirniadol ac archwilio a datblygu sail dystiolaeth broffesiynol.

Pendronais hefyd ynghylch beth oedd union ystyr y term hwn; cyn belled ag rwyf i’n ymwybodol mae cariad yn gysyniad gwbl oddrychol, wedi bod mewn cariad mewn llawer o wahanol ffyrdd yn ystod fy oes roedd yn ymddangos i mi y gallai hon fod yn sgwrs letchwith gyda grŵp o fyfyrwyr. Efallai bod hyn yn rhannol oherwydd y bydd rhaid i mi gynnig rhai o’m profiadau goddrychol fy hun, a hefyd oherwydd bod gen i berthynas broffesiynol gyda fy myfyrwyr sy’n wrthrychol ei natur yn y bôn.

Ystyriais hyn yn ofalus a darllenais y deunydd academaidd perthnasol oedd ar gael, cefais fy synnu i ddarganfod cofnodion cynhadledd, a bod astudio cariad yn ddisgyblaeth academaidd. Roedd y deunydd a ddarllenais yn ysbrydoledig ac yn cynnwys naratifau ansoddol gan ymarferwyr proffesiynol a oedd yn diffinio’n glir pwysigrwydd cysylltiadau emosiynol o fewn eu rhyngweithiadau. Roedd hyn yn ryddhad ac yn torri ar draws gwrthrychedd datgysylltiedig cyffredinol papurau academaidd ac adolygiadau polisi.

Fe’m tarodd i efallai y byddai barddoniaeth yn gyfrwng hyd yn oed mwy cynhyrchiol i archwilio ystyr cariad proffesiynol. Mae gwaith Loris Malaguzzi a’i farddoniaeth, ‘The Hundred Languages of Children’ yn ein hatgoffa o ymatebolrwydd emosiynol plant (The Hundred Languages of Children: Reggio Children – 100 languages).

Mae ‘Welcome to Holland’, gan Emily Perl Kingsley, yn cyfleu’n fendigedig y teimladau chwerwfelys a brofir gan fam y mae ei baban yn cael ei eni gyda Syndrom Down (Welcome to Holland: Welcome to Holland – Emily Perl Kingsley).

Dros y blynyddoedd, yn gweithio mewn rolau nyrsio a gofal cymdeithasol adfyfyriais ar y ffaith bod rhai o’r profiadau a pherthnasoedd proffesiynol rwyf wedi’u cael, wedi galw am gysylltiadau emosiynol. Oherwydd dwyster y sefyllfaoedd, roedd yna bethau’n gyffredin â pherthynas gariadus. Yn ddiddorol, wrth i mi ysgrifennu hwn, rwy’n teimlo ychydig yn anghyfforddus, ac fe all hyn fod oherwydd fy anallu fy hun i fynegi hyn.

Ond o feddwl yn ddyfnach amdano ac adfyfyrio, rwy’n cofio gafael dwylo pobl, a hynny’n gwbl rydd, pan oeddynt yn dioddef gofid llwyr. Roedd hyn yn ymateb naturiol i’w hanghenion, gan wrando’n astud a rhannu teimladau gyda dieithriaid trwy ddealltwriaeth ddieiriau nas yngenir. Darllen wynebau’r rheiny sydd oedd o’m blaen ac ymateb i giwiau emosiynol am gefnogaeth a chadarnhad.

Mae’r weithred o ymateb i anghenion emosiynol o fewn cyd-destun proffesiynol yn galw am lythrennedd emosiynol ar lefel uchel. Daw hyn drwy brofiad a hyder, ymateb adfyfyriol i sefyllfaoedd, ac mae adolygu rhyngweithiadau gydag eraill yn helpu i adeiladu hyn. Mae bod mewn ‘proffesiwn gofalgar’ yn fraint, mae pobl yn ymddiried ynoch chi. Mae’r ymddiriedaeth hon yn haeddu agwedd llawn parch, a chydnabyddiaeth y gallai’r ymateb anghywir gael effaith barhaus yng nghof emosiynol y rheiny sy’n ymddiried ynoch chi.

Yn dilyn y broses adfyfyrio ddofn hon, penderfynais fynd amdani a chyflwyno’r syniad i’r myfyrwyr. Teimlais mai’r ffordd orau i’w gyflwyno oedd mewn trafodaeth grŵp wedi’i chysylltu ag anghenion emosiynol plant ifanc. Gwnaethom ddechrau siarad am gysyniad ymatebion emosiynol i blant a pha mor bwysig yw creu perthynas gynnes ac ymatebol. Dechreuodd y myfyrwyr ymateb yn bositif gydag enghreifftiau o’u profiadau proffesiynol eu hunain.

Fe enynnodd rhai o’r straeon ymateb emosiynol yn y grŵp, wrth gofio am ymatebion emosiynol ond eto gwbl broffesiynol i blant a’u teuluoedd. Gwnaethom adalw atgofion positif o’n plentyndod ein hunain, delweddau o famau’n taflu cynfasau drosom yn dyner a chofleidiau cynnes. Roedd yna ymdeimlad o gysylltioldeb wrth i ni siarad yn rhydd fel grŵp, cafodd pawb a rannodd eu straeon barch a chefnogaeth lwyr. Fe ddaeth yn gwbl amlwg i mi fod ganddynt, fel grŵp o ymarferwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar, gysylltiad dwfn ac ymrwymiad i anghenion y plant yn eu gofal.

Rwy’n hapus iawn fy mod wedi dewis archwilio natur cariad proffesiynol a’i gynnwys yn fy null addysgu. Mae’n cadarnhau arwyddocâd perthnasoedd yn ein bywydau ni i gyd. Mae’r ffaith bod gan y myfyrwyr rwy’n eu haddysgu agwedd mor emosiynol ymatebol ac empathig i’w ganmol ac mae’n cyfoethogi disgyblaeth academaidd addysg a gofal blynyddoedd cynnar.

Yn y dyfodol, rwy’n bwriadu integreiddio’r cysyniad hwn o gariad proffesiynol yn fwy aml wrth ryngweithio gyda myfyrwyr. Gellir rhoi proffesiynoldeb mewn llawer o wahanol gyd-destunau; drwy’r profiad hwn rwyf wedi dysgu bod ymatebolrwydd emosiynol ac ymwybyddiaeth o’r hunan ac eraill yn ganolog i ddatblygiad gwybodaeth a sgiliau proffesiynol blynyddoedd cynnar. Mae’n ein galluogi i ddefnyddio’r gair ‘cariad’ yn rhydd, gyda bwriad pwrpasol i fodloni anghenion emosiynol dwfn eraill.