Dr Sofya Lyakhova a Dr Howard Tanner yn ystyried datblygiad Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg…

 

Mae’r cyhoeddiad diweddar (3.11.16) gan yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, ynghylch creu Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg i’w groesawu gan rieni, athrawon a myfyrwyr yng Nghymru.

Yn ystod y cyfnod economaidd cythryblus hwn, mae’n briodol iawn y dylai Llywodraeth Cymru ddatgan bod diwygio addysg yn genhadaeth genedlaethol.

Rhaid i ni sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru yn cael y cyfle i gyrraedd y safonau uchaf gan godi’u huchelgeisiau i geisio rhagoriaeth.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mathemateg o fewn y genhadaeth hon. Heb os, mae sylfaen gref mewn mathemateg yn hanfodol ar gyfer economi fodern sy’n seiliedig ar wybodaeth yn ogystal â datblygiad unigolion cyflawn.

Mae sylfeini’r datblygiad hwn wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y profiad a gaiff pobl ifanc trwy gydol eu hamser yn yr ysgol, o 3 i 18 oed. Mae athrawon mathemateg yn allweddol yn hyn o beth ac mae datblygiad proffesiynol athrawon o ansawdd yn elfen hanfodol wrth gyflawni’r uchelgeisiau hyn.

Mae addysgu da a hyd yn oed rhagorol yn digwydd yng Nghymru bob dydd, ond nid yw hyn yn gyson wir. Mae perfformiad Cymru ym mhrofion rhyngwladol PISA yn parhau i fod yn achos pryder.

Fodd bynnag, mae canlyniadau arholiadau diweddar gan fyfyrwyr cyrhaeddiad uwch yn addawol. Yn benodol, mae gwaith Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru, gan ddefnyddio strategaethau cyflwyno arloesol, i raddau helaeth wedi cau’r bwlch niferoedd a fodolai rhwng Cymru a Lloegr mewn mathemateg bellach.

Cydnabu adroddiad yr OECD 2014 ar wella ysgolion yng Nghymru rai o’r cryfderau yn system addysg Cymru, ond nododd hefyd heriau yn cynnwys diffyg gweledigaeth tymor hir, seilwaith gwella ysgolion annigonol, a’r angen am strategaeth weithredu glir a arddelid gan yr holl ran-ddeiliaid.

Credwn y dylai’r Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg ddarparu’r weledigaeth a’r seilwaith cynaliadwy sy’n angenrheidiol i rannu’r arfer cyfredol gorau ar draws Cymru, ac i ddatblygu mewn athrawon wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r modd mae plant yn dysgu mathemateg, sy’n angenrheidiol i ddatblygu’r pwnc yn y cwricwlwm newydd. Mae’n hanfodol bwysig bod y seilwaith newydd yn cwmpasu pob grŵp oedran, o 3 i 18 oed.

Dylai’r Rhwydwaith gynnwys cyfranogiad gweithredol gan athrawon mathemateg ledled Cymru, gyda chymorth cydweithwyr mewn consortia rhanbarthol ac mewn cydweithrediad agos ag ymchwilwyr mathemateg ac addysg fathemateg mewn prifysgolion.

Dylai’r cydweithredu hwn ddatblygu’n ymagwedd newydd gyffrous at ddatblygiad proffesiynol mewn mathemateg, sy’n cymryd i ystyriaeth yr ymchwil diweddaraf i addysgu a dysgu mathemateg, gan barhau â sail gadarn mewn ysgolion.

Symud tuag at Ragoriaeth mewn Addysgu Mathemateg

Ein gweledigaeth ni yw y dylai gwaith y Rhwydwaith fod yn seiliedig ar rwydwaith cenedlaethol, gyda phrif ymarferwyr addysgu mathemateg yn cymryd rhan mewn ymchwil i’w harfer eu hunain. Mae’r math hwn o ymchwil gan ymarferwyr wedi’i gydnabod ers amser fel rhywbeth sy’n arbennig o effeithiol o ran datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon o ddysgu ac addysgu.

Fodd bynnag, weithiau mae wedi’i feirniadu am ei ddiffyg trylwyredd ac am fethu cyfathrebu â chynulleidfa ehangach pan mae’n cael ei gynnal ar wahân.

Credwn y dylai athrawon-ymchwilwyr y Rhwydwaith ryngweithio â phartneriaid mewn addysg uwch, a fydd yn sicrhau bod eu hymchwil yn drwyadl, bod tystiolaeth ymchwil gyfredol yn cael ei ystyried, a bod athrawon-ymchwilwyr yn cydweithio mewn rhwydwaith ehangach.

Ymhellach, dylai gwaith yr athrawon-ymchwilwyr fwydo’n uniongyrchol i weithdai a gynhelir ar draws Cymru, gan sicrhau fod eu gwaith yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Dylid cyhoeddi deilliannau’r gweithdai ar y we trwy Hwb.

Dylai datblygiadau pellach gynnwys cynhadledd genedlaethol flynyddol i athrawon mathemateg ar bob lefel lle gellir dathlu gwaith yr ymarferwyr hyn. Dylai hyn gyfrannu’n naturiol i ddatblygu cylchgrawn proffesiynol newydd, ‘Addysgu Mathemateg yng Nghymru’.

Roedd adroddiad diweddar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Mathemateg yn cynnwys argymhellion ynglŷn ag adnabod arfer da sydd eisoes yn bodoli a natur rhagoriaeth mewn addysgu mathemateg.

Dylid cyflawni hyn trwy waith y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg. Yn benodol, dylid creu ac achredu rhaglenni i ddatblygu, cefnogi a gwobrwyo arweinyddiaeth mewn mathemateg fel mater o flaenoriaeth.

Nid oes dull syml o ddatblygu rhagoriaeth mewn addysgu mathemateg.  Mae addysgu mathemateg yn digwydd mewn cyd-destunau penodol gyda myfyrwyr penodol, sy’n dod â’u gwybodaeth a’u credoau blaenorol eu hunain i’r sefyllfa.

Fodd bynnag, er ei bod yn anodd diffinio addysgu rhagorol mewn mathemateg, pan mae addysgu rhagorol yn digwydd, mae’n hawdd i’w adnabod yn sgil y “cynnydd dwys” a wneir gan fyfyrwyr.

Golyga cynnydd dwys fod myfyrwyr yn dysgu rhagor o fathemateg, yn dysgu mathemateg yn well ac yn teimlo’n fwy hyderus am eu galluoedd mathemategol datblygol. Yn benodol, maent yn datblygu uchelgais fathemategol ac yn ymdrechu am ragoriaeth.

Dylai hyn fod yn nod eithaf y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg.

 

  • Mae Dr Sofya Lyakhova yn Uwch Ddarlithydd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe; mae Dr Howard Tanner yn Ddarllenydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Leave a Reply