Yma mae’r tiwtor iaith Siân Brooks yn mynd â ni ar daith ddarganfod gan ddefnyddio rhithrealiti…
Mae gweld llun o Dŵr Eiffel dipyn yn wahanol i sefyll gyferbyn Tŵr Eiffel ei hun.
Pan fyddwch chi ym Mharis ar drip ysgol, mae’r pleser pur o weld disgyblion yn edrych i fyny ar y tŵr o’u blaen gan werthfawrogi maint y darn eiconig hwn o bensaernïaeth yn foment wych i athro Ffrangeg – daw’r pwnc yn fyw iddynt.
Fodd bynnag, nid yw’r profiad hwn ar gael yn aml i bob disgybl ac mae’r broses asesu risg, sy’n rhan hanfodol o drefnu trip, yn peri i nifer o athrawon gefnu ar y syniad.
Trwy gydol fy ngyrfa fel athrawes rydw i wedi bod yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o ail-greu’r profiad o daith dramor o fewn y dosbarth Ieithoedd Tramor Modern, yn amrywio o drefnu cyfeillion gohebol yn nyddiau cynnar fy ngyrfa i ddefnyddio Skype yn fwy diweddar.
Ond ar hap ar Twitter y darganfûm yr ap, Google Expeditions.
Gofynnwyd i mi gyfrannu at Ddiwrnod Digidol Ieithoedd Tramor Modern ar ran ERW ar apiau arloesol ar gyfer addysgu ieithoedd tramor modern, ac roeddwn i am sicrhau fy mod yn cyflwyno’r tueddiadau a’r dulliau diweddaraf o ddefnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth ieithoedd tramor modern.
Mae Twitter (a’r #mfltwitterati) yn hanfodol i athrawon ieithoedd tramor modern sy’n chwilio am addysgeg arloesol a dyma lle des i o hyd gyntaf i’r syniad o ddefnyddio rhithrealiti yn y dosbarth ieithoedd tramor modern.
Roeddwn i’n llawn chwilfrydedd: a fyddai pensetiau rhithrealiti, felly, yn ail-greu taith dramor ac yn rhoi blas i’r disgyblion o Baris?
Gyda’r cwestiwn hwn mewn golwg, ac i baratoi ar gyfer y Diwrnod Digidol, gwisgodd myfyrwyr TAR Uwchradd Ieithoedd Tramor Modern bensetiau Google Cardboard i roi prawf ar Google Expeditions.
Trwy’r ap Google Expeditions ar ddyfais llechen, daw’r athro’n ‘dywysydd’ a gall arwain disgyblion o amgylch ystod eang o alldeithiau 360⁰ a 3D.
Mae’r disgyblion yn cymryd rhan yn y daith trwy ffonau clyfar a roddir yn y syllwyr Google Cardboard. Mae angen rhoi’r pensetiau cardbord, sydd wedi’u torri’n barod, at ei gilydd ac yna rhoddir ffôn clyfar yng nghefn y syllwr, a’i sicrhau’n ddiogel yn ei le.
Mae’r ap yn rhannu’r sgrin yn ddau fel bod delwedd ar gyfer pob llygad. Pan fyddwch yn edrych trwy lensys y syllwr, gallwch weld y delweddau ar y ffôn clyfar.
Mae’n teimlo braidd yn anesmwyth i ddechrau, fel sbectol 3D sinema, ond yr hyn sy’n ei wneud mor ddiddorol yw’r rhyddid i symud o gwmpas (darperir strap) i ddarganfod y byd.
Yn ein sesiwn yn y brifysgol, rhoddwyd y rôl o fod yn ‘dywysydd’ y daith i Justine Le Maire, un o’r myfyrwyr TAR Ieithoedd Tramor Modern.
Defnyddiodd nodiadau’r tywysydd ar yr ap yn gelfydd iawn a’n harwain yn rhithwir o amgylch Dinas y Goleuadau.
Eglurodd y broses fel hyn: “Fel tywysydd, fe wnes i fwynhau rhannu golygfeydd o Baris gyda’r disgyblion a gweld cymaint y cipiwyd eu diddordeb gan y realiti mae’r ap yn ei gynnig. Mae mor hawdd i’w ddefnyddio ac yn cynnig cymaint o bosibiliadau.”
Disgrifiodd Maria Luggeri, myfyrwraig TAR, ei phrofiad fel ‘teithiwr’: “Fel disgybl yn gwisgo’r penset, roeddwn i’n teimlo fel pe bawn i ym Mharis. Roedd yn wych i edrych o gwmpas a gweld pethau fel pe bawn i yno.
“Fe wnes i ymgolli’n llwyr yn y profiad, a oedd yn llawn pethau i’w disgrifio a’u hegluro i’r bobl o’m cwmpas nad oedd yn gallu gweld yr hyn a welwn i.”
A minnau bellach yn teimlo’n hyderus i gyflwyno’r ap hwn yn y Diwrnod Digidol, fe wnes i gynnwys arddangosiad ac yn sicr cefais adborth cadarnhaol tu hwnt gan athrawon a allai weld y potensial.
Hyd yn oed heb y pensetiau, roedd y delweddau 360⁰ ar ddyfais llechen yn gyffrous i’w gweld. Mae hyn yn ddefnyddiol nid yn unig i athrawon ieithoedd tramor modern, mae hefyd yn berthnasol i nifer o bynciau eraill a gall helpu gwneud cysyniadau haniaethol iawn yn real.
Gellir mynd â disgyblion ar deithiau i wahanol leoliadau, o ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf i’r Barriff Mawr; o deithiau i orielau celf, i deithiau yn y corff dynol hyd yn oed.
Gallai hyd yn oed helpu disgyblion ar y sbectrwm awtistig i ‘ymarfer’ taith ymlaen llaw. Byddwn yn argymell yr ap hwn i’r holl fyfyrwyr TAR roi cynnig arno gan ei fod yn ffordd effeithiol o ddefnyddio technoleg i gyfoethogi dysgu.
Fel un a fu’n gwylio’r daith dywysedig o Baris yn fy ystafell addysgu TAR, y peth mwyaf diddorol i’w nodi oedd y modd y gwnaeth y myfyrwyr a oedd yn gwisgo’r pensetiau edrych i fyny yn yr un modd i amgyffred maint Tŵr Eiffel, yn union fel pe baent yn ddisgyblion yn sefyll ar y palmant y tu allan.
Roedd yn foment gyffrous i ddod â Pharis i mewn i’r ystafell ddosbarth. Rwy’n awyddus i roi’r daith i Baris mewn cynllun gwers i weld sut y bydd yn gweithio, ond mae gen i ddiddordeb hefyd i weld os gellid defnyddio’r cyd-destunau cyffrous y mae’r ap yn eu cynnig yn yr ystafell ddosbarth ieithoedd tramor modern: a allai athrawon ieithoedd tramor modern ddefnyddio’r daith ‘Underwater Caribbean’ i addysgu lliwiau, er enghraifft?
Er na fydd dim byth yn gallu cymryd lle’r cyffro o deithio i Ffrainc, mae’n hawdd gweld pam mai rhithrealiti yw un o’r tueddiadau EdTech mwyaf yn 2017: gall athrawon rannu profiadau ysgogol a diwylliannol sy’n hollol gynhwysol ac ymdrochol, ac a allai fod yn drawsffurfiol, heb adael yr ystafell ddosbarth.
- Mae Siân Brooks yn diwtor TAR Ieithoedd Tramor Modern ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant