Gyda’r paratoadau ar gyfer cynhadledd Ymchwil Addysg gyntaf Yr Athrofa yn cyrraedd penllanw, ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’, mae Mererid Hopwood yn codi clawr adroddiad a gyhoeddwyd 90 mlynedd yn ôl: ‘Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd’…

 

1927

Mae’n flwyddyn arwyddocaol. Dyma flwyddyn sefydlu’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Syr John Reith, a blwyddyn yr alwad ffôn gyntaf o Efrog Newydd i Lundain.

Dyma flwyddyn agor yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a’r flwyddyn y pleidleisiodd y Blaid Lafur dros genedlaetholi’r diwydiant glo. Ac roedd digon o angen cynnau tân, oherwydd dyma’r flwyddyn y daeth dydd Nadolig â storm eira i guddio Caerdydd a thalpiau o Dde Cymru.

Ond hon hefyd oedd y flwyddyn pan aeth llyfryn o wasg yr HMSO yn Llundain ar werth am swllt a chwech dan y teitl: Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd.

Hwn oedd adroddiad y pwyllgor adranol (sic) a benodwyd gan lywydd y bwrdd addysg i chwilio i safle yr iaith Gymraeg yng nghyfundrefn addysg Cymru ac i gynghori sut oreu i’w hyrwyddo.

Y cyfryw lywydd oedd Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Eustace Percy AS ac roedd aelodau’r pwyllgor yn cynnwys pedwar dyn ar ddeg ac un fenyw.

Mae’n werth nodi eu henwau:

Y Gwir Barchedig Esgob Tyddewi, D.D. (Cadeirydd);

Yr Anrhydeddus W. N Bruce, C.B., Ll.D;

Mr E. T. Davies, M.A;

Mr William Edwards, M.A., Litt.D;

Miss Ellen Evans, M.A;

Yr Athro W. J. Gruffydd, M.A;

Y Parch. Ganon Maurice Jones, D.D;

Syr Stanley Leathes, K.C.B;

Y Parch. Thomas Rees, M.A., Ph.D;

Mr W. O. Roberts;

Mr D. Lleufer Thomas, M.A.,Ll.D;

Mr Philip Thomas;

Mr. R. T. Vaughan, Y.H;

Yr Henadur W. C. Watkins, Y.H;

Mr G. Prys Williams Arolygydd Ysgolion;

A’r ysgrifennydd oedd Mr. P. A. Lewis.

Y Problemau a’r Modd i’w Datrys

Rhennir yr adroddiad yn dair, o’r ‘Rhagymadrodd, Hanesyddol a Chyffredinol’, heibio i ‘Y Sefyllfa Heddiw’ ac ymlaen at ‘Y Problemau a’r Modd i’w Datrys’.

Does ond angen edrych ar yr is-benawdau wedyn i gael blas ar gwmpawd eang yr astudiaeth. Yn yr adran gyntaf ceir golwg ar ‘Griffith Jones a’i Ysgolion Teithiol’, ‘Y Diwygiad Methodistaidd’, ‘Y Wladwriaeth ac Addysg’, ‘Y Mudiad Cenedlaethol yn Hanner Olaf y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’, ‘Yr Eisteddfod a’r Iaith Gymraeg’ cyn rhoi adran gyfan i’r Ddrama gan edrych ar y ‘Miraglau a’r Anterliwitiau’ hyd at ‘Dyletswydd y Genhedlaeth Bresennol’.

Mae’r ail adran wedyn yn edrych ar faterion am ystadegau, fel cyfartaledd ‘Y Bobl a Sieryd Gymraeg’ a ‘Nifer y rhai sy’n siarad Cymraeg ar gyfer pob milltir ysgwâr’; ystyrir hefyd ‘Polisi a Rheolau’r Bwrdd Addysg’, ‘Lle’r Gymraeg yn y Gwaith o Hyfforddi Athrawon’, mater ‘Athrawon yn Symud i Loegr’, y Gymraeg yn ‘Y Brifysgol’,  ‘Llyfrau Addysg’, yn yr ‘Eglwys a’r Ysgol Sul’, heb anghofio am y Gymraeg ‘Deddfwriaeth a Llysoedd Barn’.

Mae’r drydedd ran, sef y rhan sy’n amcanu esbonio beth yw’r broblem a sut i’w datrys, yn agor gyda darn sy’n edrych ar sut y mae’r genedl wedi ‘cadw ei hunaniaeth yn y gorffennol er gwaethaf dylanwadau estron’, cyn symud ymlaen i edrych ar bethau fel  yr ‘Ysgolion Elfennol’, y ‘Ffordd o’r Ysgol Elfennol i’r Ysgol Ganol’, ‘Dylanwad yr Arholiadau’, y ‘Method’,  y ‘Brifysgol’, ‘Llyfrgelloedd’, ‘Cymdeithasau’, ‘Cerddoriaeth’, ‘Amaethyddiaeth’ a ‘Masnach’.

Lle’r Gymraeg yn y Gwaith o Hyfforddi Athrawon

“O mynnir hyrwyddo astudiaeth o’r Gymraeg yn yr ysgolion, rhaid wrth gyflenwad digonol o athrawon a gafodd eu hyffordi’n briodol i ddysgu’r iaith…”

Gyda’r gosodiad plwmp a phlaen hwn, mae’r adroddiad yn mynd rhagddo i geisio canfod beth yw’r drefn o ran dysgu’r Gymraeg yn y chwech o golegau hyfforddi a oedd yng Nghymru bryd hynny.

O Goleg yr Eglwys i’r Normal ym Mangor, o’r Barri i Gaerfyrddin, o Gaerlleon i Abertawe gwelir mai amrywiol yw’r ddarpariaeth.

Nodir ei bod hi, oddi ar 1921, yn bosib dewis y Gymraeg fel pwnc arbenigol yn y papur ‘Egwyddorion Hyfforddi’ lle byddai’n rhaid i’r darpar-athrawon ddangos prawf o astudiaeth fanwl o’r ffordd i ddysgu’r Gymraeg i blant.

Yna, ceir cyfeiriad at wellaint a ddaeth i rym yn 1926 sef caniatau (sylwer – ‘caniatau’!) i’r Colegau Hyfforddi ‘ddarparu cwrs ychwanegol mewn Addysg Ddwyieithog, er rhoddi i’r myfyrwyr gyfarwyddyd sut i ddysgu Iaith a Llenyddaeith Gymraeg (1) mewn ardaloedd Cymreig, (2) mewn ardaloedd Seisnig, (3) mewn ardaloedd dwyieithog.’

Ar drothwy cynhadledd Ymchwil Addysg gyntaf yr Athrofa, a ninnau’n edrych ymlaen at groesawu i Gaerfyrddin arbenigwyr ym maes Iaith mewn Addysg, a chael cyfle i drin a thrafod asesu, addysgeg, amlieithrwydd ac agweddau at iaith, mae’n werth weithiau bwrw golwg yn ôl.

  • Mae Mererid Hopwood yn aelod o staff Yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant. Dros yr wythnosau nesaf bydd Mererid yn edrych yn agosach ar yr adroddiad hwn, ynghyd â chyfres o lythyrau Dan Isaac Davies ‘Tair Miliwn o Gymry Dwy-Ieithawg Mewn Can Mlynedd’ (1885)

Leave a Reply