Mae gwahoddiad i athrawon ledled Cymru gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig, unigryw i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg fenter.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n cynnal y digwyddiad – ‘Addysg Addas i’r Dyfodol: yr Anghenraid Entrepreneuraidd yng Nghymru’ – ddydd Gwener 14 Gorffennaf 9.30am-3pm ar Gampws Townhill, Abertawe.
Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio i athrawon ar bob lefel allu rhannu adnoddau, offer ymarferol a’r syniadau diweddaraf ynghylch addysg fenter.
Yn ei adroddiad arloesol ar y cwricwlwm ‘Dyfodol Llwyddiannus’, mae’r Athro Graham Donaldson yn cynnig ei farn bod angen i addysg yng Nghymru baratoi ein dysgwyr i fod yn gyfranogwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
Gan gadw hyn mewn cof, bydd y digwyddiad yn ymhelaethu ar ‘Beth? Pryd? Pam? a Sut?’ y gallwn ni ddatblygu ein haddysgu er mwyn sicrhau ein bod ni’n gweithio tuag at adeiladu cwricwlwm newydd i Gymru sy’n addas i’r 21ain Ganrif a thu hwnt.
Meddai Rheolwr Mentergarwch Y Drindod Dewi Sant, Kathryn Penaluna: “Mae adolygiad addysg yr Athro Donaldson yn disgrifio’r meddwl blaengar sydd nid yn unig yn herio’r ffordd y mae dysgu ac addysgu yn digwydd ar hyn o bryd, ond hefyd mae’n cwestiynu nifer o ddulliau tanategol rydym ni’n eu cymryd yn ganiataol.
“Gan fod yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol yn Y Drindod Dewi Sant wedi dysgu drwy weithio gyda llawer o wledydd eraill ar yr agenda hwn, yn aml mae’n rhaid i ni gamu yn ôl ac edrych ar y darluniau ehangach cyn y gallwn ni wneud cynnydd.
“Mae edrych ar beth sydd ar gael ar hyn o bryd a’r rhesymau pam bod rhaid i ni newid, yn ein helpu ni i fod yn fwy brwdfrydig ac yn fwy rhagweithiol am y ffyrdd y gallwn ni sicrhau addysg addas i’r dyfodol.”
Mae’r diwrnod wedi’i anelu at athrawon o bob disgyblaeth bynciol a bydd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, cyflwyniadau ar effaith debygol cwricwlwm Donaldson, y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru newydd a phrofiadau entrepreneuraidd model rôl o fenter ‘Syniadau Mawr Cymru’.
Mae’r Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol yn rhedeg ochr yn ochr â’r Athrofa Addysg yn Y Drindod Dewi Sant.
Er mwyn diogelu’ch lle yn y digwyddiad, anfonwch e-bost at Amanda.hughes@uwtsd.ac.uk