Partneriaeth Dysgu Proffesiynol
Mae Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) yn gyfuniad unigryw o staff yr ysgol a’r brifysgol yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu addysg athrawon.
Gyda’i gilydd, mae PDPA yn cynnig tair rhaglen arloesol gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) – y cymhwyster sydd ei angen i addysgu yn ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ôl-raddedig – TAR Cynradd (gyda SAC)
Ôl-raddedig – TAR Uwchradd (gyda SAC)
Israddedig – BA Addysg (gyda SAC)
Mae datblygu PDPA yn cychwyn dull newydd ac arloesol o ddarparu addysg athrawon, a’r Athrofa ac ysgolion partner yn gyd-gyfrifol am adeiladu a darparu holl raglenni AGA.
O’r herwydd, mae PDPA yn cyfuno arbenigedd y sector ysgolion a’i holl brofiad ymarferol ar lawr dosbarth ag arbenigedd y sector addysg uwch, o ddeall dyluniad ymchwil gofalus a darpariaeth i grefft sgiliau uchel addysgu athrawon a darpar athrawon.
Gyda’i gilydd, mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i hysgolion partner hanes cadarn o addysgu a mentora myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn llwyddiannus ar raglenni sydd wedi ennill eu plwyf dros amser.
Meddai’r Athro Dylan Jones, Deon Yr Athrofa: ‘Er mwyn paratoi darpar athrawon ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn system addysg Cymru, nifer o gyfarfodydd cynhyrchiol staff Yr Athrofa ac mae mwy na 150 o ysgolion wedi cael cymorth i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r rhaglenni addysg athrawon gorau eu perfformiad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Canlyniad yr holl gyd-adeiladu eang yw datblygu cwricwlwm craidd cynhwysfawr sy’n cwmpasu ein holl ddarpariaeth AGA gyda diffiniad clir o’r rolau a’r cyfrifoldebau i ysgolion a’r brifysgol.
“Mae hyn yn sicrhau bod PDPA mewn sefyllfa gref i ddarparu rhaglenni AGA sy’n drylwyr academaidd ac yn ddeallusol heriol.”
Ym mis Mehefin 2018, daeth y PDPA yn un o ddim ond pedwar darparwr hyfforddiant a ddewiswyd i gynnig addysg athrawon yng Nghymru y tu hwnt i 2019.
Mae’r gymeradwyaeth yn sicrhau bod canolfan hyfforddi athrawon hynaf Cymru – sydd yn y safle 1af yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ers dwy flynedd – yn parhau i hyfforddi athrawon ymhell i’r dyfodol.
Gallwch ddysgu rhagor am broses ddethol drylwyr y Cyngor Gweithlu Addysg – ac achrediad llwyddiannus PDPA – yma.
Mae’r Ysgolion Partner Arweiniol uchod wedi cytuno i weithio gyda’r Athrofa i gyd-ddarparu pob un o’n rhaglenni addysg athrawon:
Yr Esgob Gore
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Ysgol Gynradd Cadle
Ysgol Gynradd Tregatwg
Ysgol Gyfun y Bont-faen
Ysgol Uwchradd Fitzalan
Ysgol Gynradd Maes yr Haul
Ysgol Gyfun yr Olchfa
Ysgol Gynradd Parkland
Ysgol Gymunedol Doc Penfro
Ysgol Gynradd Pontarddulais
Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas
Ysgol Gyfun Treorci
Ysgol Cwm Brombil
Ysgol Gynradd Gymraeg Lon Las
Ysgol Llanhari
Ysgol Preseli
Mae’r ysgolion hyn, a phob un ag enw da am gymorth darpar athrawon ac arfer cryf ar lawr dosbarth, yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd â’r brifysgol am weithgarwch lleoliadau yn eu rhwydweithiau.
Mae dros 120 o ysgolion ledled de Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi darpar athrawon PDPA.
Gyda’i gilydd, mae’r Athrofa ac ysgolion partner yn falch dros ben o ddarparu addysg athrawon a chynorthwyo’r rhai sy’n barod i ysbrydoli cenedlaethau o ddysgwyr yn y dyfodol.