Mae Cai Pughsley yn cyfleu darlun byw o realiti bod dydd yn yr ysgol i lawer o athrawon a phlant yng Nghymru yn y blog pwerus ac effeithiol hwn.
Rwy’n cyrraedd y dyffryn, wrth i’r niwl ddisgyn. Mae’n gorchuddio’r hen derasau, gan feddalu’r craciau ac yn creu byd tawel, bron yn gyfrinachol yn y pentref. Ar waelod y bryn, saif ysgol gynradd fach. Mae’n teimlo’n gyfarwydd gydag arogl creonau wedi’u cymysgu â diheintydd, mae’r waliau wedi’u gorchuddio â pheintiadau plant sy’n cyrlio ychydig ar yr ymylon, a chloch, nad yw’n canu’n iawn rhywsut. Ond y tu mewn, mae’r lle’n llawn bywyd.
Erbyn hanner awr wedi saith, mae’r gofalwr wedi tanio’r goleuadau. Yn fuan ar ôl hynny, mae’r gegin yn dechrau byrlymu. Mae’r cogydd ar waith yn barod yn paratoi’r tost a’r uwd. Nid oes angen cwestiynau yma. Mae’r drefn yn syml; gwnewch yn siŵr bod rhywbeth twym yn barod i’r plant bob amser. “Mae’n haws iddyn nhw wrando pan nad yw eu boliau yn canu grwndi,” maen nhw’n dweud yn ddiymhongar. Ac mae’n wir.
Nid ystadegyn yw tlodi yn y dyffryn hwn. Mae’n rhywbeth go iawn. Mae’n ymwneud ag oergelloedd gwag, esgidiau sy’n rhy fach, cardiau trydan sy’n rhedeg allan cyn i’r wythnos ddod i ben. Mae plant yn dod i’r ysgol yn gwisgo’r un siwmper drwy’r wythnos. Ond, er gwaethaf hyn i gyd, mae ‘na wydnwch. Gwydnwch, tawel, ystyfnig, bob dydd.
Wrth gerdded drwy’r ystafelloedd dosbarth, mae arwyddion bach yn ymddangos. Mae plentyn yn celcio bisgedi o amser byrbryd, un arall yn “anghofio” eu gwisg ymarfer corff bob wythnos, rhywun yn gofyn am bapur ychwanegol i ddefnyddio adref. Mae’r arwyddion bach hyn yn siarad cyfrolau, ac mae’r staff yn eu darllen fel llyfrau agored.
Mewn un ystafell ddosbarth, mae athro yn cadw drôr o sanau sbâr a menig wrth y rheiddiadur. Dim cyhoeddiadau, dim ffanffer, maen nhw ar gael i unrhyw un sydd eu hangen. “Os ydych chi’n tynnu sylw at y peth, fyddan nhw ddim yn mynd â nhw,” maen nhw’n dweud. Mae tosturi yn gweithio’n dawel, yn barchus yma, ac mae arwyddion pwysig yn anweledig… ond dyna’r bwriad.
Yna, mae’r clwb brecwast. Mae’r ystafell yn fyw gyda chwerthin a thwrw platiau. Mae’r un plant yn cyrraedd yn gynnar bob bore, yn rasio i weld pwy yw’r cyflymaf i fenynu’r tost. Am yr ychydig funudau hynny, nid “disgyblion o ardal ddifreintiedig” ydyn nhw. Maen nhw’n blant. Ac yn yr ysgol fach, ychydig yn hindreuliedig hon, maen nhw’n dod o hyd i ymdeimlad o ddiogelwch a normalrwydd. Nid yw’n ymwneud â dysgu am lythrennau a rhifau yn unig. Mae’n ymwneud â sefydlogrwydd, trefn a gofal. Mae dysgu emosiynol yn cario cymaint o bwysau â gwersi academaidd. Mae caredigrwydd yn cael ei ddysgu drwy straeon, hyder drwy waith tîm, empathi drwy ymddiriedaeth.
Mae cwtsh yn air rydych chi’n ei glywed llawer yma. Mae’n fwy na chofleidiad, mae’n gynhesrwydd, diogelwch, ymdeimlad o berthyn. Mae’r ysgol hon yn ei gynnig ym mhob ffordd y mae’n gallu; drwy strwythur, drwy gred, drwy fod yn bresennol ddydd ar ôl dydd. Wrth gwrs, nid yw’n hawdd. Mae athrawon yn aros yn yr ysgol yn hwyr, yn llenwi ffurflenni, yn mynd ar drywydd cyllid, yn rhedeg clybiau ar ôl ysgol, galw heibio i weld teuluoedd. Maen nhw’n gweld effaith tlodi a llymder; gorbryder, blinder, plant yn tyfu lan yn rhy gyflym. Ac eto, mae ‘na obaith. Nid yw addysg yma yn ymwneud â phrofion a pholisi. Mae’n ymwneud â sylwi, gwrando, a bod yna. Cysylltiad.
Mae un eiliad fach dawel wedi aros gyda fi. Un bore, gadawodd plentyn nodyn ar ddesg athro. Dim ond ychydig o eiriau oedd ar y nodyn, ond maen nhw’n cyfleu’r cwbl. Gofal, ymddiriedaeth, gobaith. Nid lleoedd i ddysgu yw ysgolion fel hyn, maen nhw’n llinellau bywyd. Dyma le mae plant yn teimlo’n ddiogel, lle mae athrawon yn ymladd yn dawel yn erbyn ymylon tlodi – pla cynifer o ysgolion yng Nghymru – a lle mae gobaith yn parhau i droi i fyny, ddydd ar ôl dydd.
Rwy’n cerdded drwy’r iard chwarae wrth i haul y bore’n codi o’r diwedd. Mae plant yn rhedeg, gweiddi, chwarae tag, mae eu chwerthin yn atseinio ar waliau’r dyffryn. Ni fyddech chi’n dyfalu o’r tu allan yr hyn mae rhai yn delio ag ef, yr heriau sy’n eu dilyn o gartref. Eto, yn y gofod hwn, am yr oriau hyn, plant ydyn nhw a dim arall. Yn rhydd i fod yn chwilfrydig, yn rhydd i fod yn anniben, yn rhydd i fod yn nhw eu hunain.
Yma, mae addysg yn ymwneud â chymaint yn fwy na gwersi ar yr amserlen. Mae’n ymwneud â phresenoldeb, y ffordd mae athro yn sylwi ar blentyn yn gwgu, yn betrusgar, neu fod angen tawelwch. Mae’n ymwneud â charedigrwydd mewn gweithredoedd bach, ailadroddus; pryd o fwyd twym, pâr ychwanegol o sanau, gair o anogaeth ar yr adeg iawn. Mae’n ymwneud â chreu rhythm sy’n dweud wrth y plant bob dydd: “Rydych chi’n perthyn. Rydych chi’n cael eich gweld. Rydych chi’n cael gofal.”
Ac efallai mai dyna wir wyrth yr ysgolion hyn yn y cymoedd. Nid ydyn nhw’n esgus eu bod yn gall trwsio popeth. Nid ydyn nhw’n diystyri tlodi nac yn dileu pryder. Ond maen nhw’n meddalu’r ymylon, ac wrth wneud hynny, yn rhoi rhywbeth i’r plant sy’n para llawer hirach na chynllun gwers – cred. Cred y gall yfory fod yn well, bod rhywun yn gofalu amdanyn nhw, eu bod nhw’n bwysig. Ac yn wir, mae’r ysgolion hyn yn ei wneud.
- Mae Cai Pughsley yn athro cynradd Blwyddyn 1 yng nghymoedd Cymru ac mae hefyd yn fyfyriwr ar Raglen Doethuriaeth mewn Addysg yn yr Athrofa. Mae’r straeon a gyflwynir yma wedi’u ffugio, ond maent yn seiliedig ar brofiadau go iawn.

