Mae diogelu ein system addysg rhag y dyfodol a galwadau’r 21ain ganrif yn dasg sylweddol. Ond mae hefyd yn gyfle. Yma, mae Dr Jan Barnes yn cefnogi creadigedd fel sgil hanfodol mewn Cymru fodern…

 

Yn fy marn i, mae’n deg dweud nad yw’r byd yr ydym yn gyfarwydd ag ef ond yn newid, mae hefyd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi newid cymaint, ni allwn bron â’i adnabod.

Mae datblygiadau ffrwydrol mewn technoleg, yn enwedig technoleg ddigidol wedi golygu ein bod yn byw ein bywydau yn wahanol.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn ein cysylltu’n fyd-eang; mae arferion gwaith yn hyblyg. Mae popeth yn ddi-oed; mae popeth wedi’u cysylltu â’i gilydd.

Rydym yn byw o fewn rhwydwaith byd-eang; a dweud y gwir mae arloesi yn golygu bod llawer o’r pethau  yr oeddem unwaith yn credu na allent ddigwydd ond yn y pictiwrs neu ym myd ffuglen wyddonol yn dod yn ffaith … ceir heb yrwyr, deallusrwydd artiffisial a chyfathrebu ag ochr arall y byd drwy gyfrwng fideo.

Er mwyn ein galluogi  i fanteisio ar y ‘byd dewr, newydd’ hwn a llwyddo, bydd angen i ni drawsnewid ein hunain i fod yn arloesol ac yn hyblyg i newid.

Mae angen ein bod ni’n gallu holi a herio ein hathroniaethau a bod yn fodlon i feddwl ac ymateb mewn ffyrdd newydd a gwahanol i’r cyfleoedd sydd bellach ar gael ar gyfer pob un ohonom.

Rwyf bob amser wedi addysgu fy myfyrwyr ein bod ni fel addysgwyr yn addysgu’r genhedlaeth nesaf i weithredu a byw mewn byd sydd yn dal i fod ar y bwrdd llunio – byd sydd eto heb ei ddyfeisio.

Nid yw’r chwyldro newid eto wedi dod i ben, ac mae cyfleoedd newydd yn ein haros.

Mae’r byd yn dod yn gynyddol entrepreneuraidd ac arloesol. Oherwydd hyn, bydd rhaid i addysg gydweddu â’r arloesi hwnnw.

Er mwyn ein galluogi i addysgu ein cenhedlaeth nesaf ar gyfer y cyfleoedd hyn, dadleuwn fod angen i ni ddatblygu sgiliau newydd, ac yn fy marn i, yr ateb yw’r fframwaith EntreComp ac EntreAssess – wedi’r cyfan, sut arall y gallwch chi fesur priodweddau megis creadigedd ac arloesedd?

Yn rhinwedd fy swydd fel addysgwr athrawon, caf gyfle i gysylltu ag amrywiaeth eang o athrawon ac academyddion gydag arbenigedd mewn amrywiol bynciau, ac sy’n addysgu cyfnodau gwahanol.

Rwy’n adnabod rhai athrawon arloesol iawn, ac rwy’n adnabod rhai sydd ond yn  hafalu sgiliau entrepreneuraidd â busnes. Mae sylwadau megis “ie, mae hynny’n wir, ond rwy’n addysgu Daearyddiaeth, neu Fathemateg…” yn gyffredin iawn.

Ie, a thra bo EntreComp ac EntreAssess yn rhoi’r ffocws ar dri phrif gymhwysedd, mae ganddynt weithredoedd galluogi, megis ymdrin â syniadau a chyfleoedd, defnyddio adnoddau a rhoi ar waith.

Ceir o fewn y tri chanolbwynt hyn gymwyseddau pellach sy’n gysylltiedig â’r byd dewr, newydd y gwnes i sôn amdano yn gynharach ac sydd, fe ddadleuwn, yn holl bwysig os ydym am gefnogi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr a all gofleidio newid a byw eu bywydau i’r eithaf.

Pe baech yn athro pwnc arbenigol neu un sydd â diddordeb arbennig mewn maes dysgu penodol, eich dysgwyr dylai fod y peth pwysicaf yn eich ystafell ddosbarth neu amgylchedd dysgu.

P’un ohonoch, tybed, sydd ddim am gael dysgwr entrepreneuraidd – un a all adnabod cyfleoedd bywyd yn ogystal â chyfleoedd dysgu?

Dysgwyr ydynt sydd â gweledigaeth ac sy’n greadigol; gall dysgwr creadigol gynhyrchu syniadau, defnyddio meddwl dargyfeiriol er mwyn creu cyfleoedd, ac edrych y tu hwnt i’r syniadau hynny er mwyn gweld yr hyn y gallent fod … a dysgwyr ydynt a all gyflawni hyn ‘oll mewn ffordd gynaliadwy a moesegol.

Gall y math cymwyseddau droi addysg orfodol yn awydd i barhau i ddysgu drwy gydol eu hoes.

Beth am ddysgwyr a all ysgogi eu hunain yn ogystal ag ysgogi eraill, gan wneud dysgu yn gyffrous?

Dysgwyr sydd â chydnerthedd sy’n eu galluogi i ddysgu ar sail eu camgymeriadau a throi’r methiant hwnnw yn brofiad cadarnhaol; gan ddatblygu’r fath agwedd sy’n eu galluogi i gymryd rheolaeth dros eu dysgu eu hunain?

Mae’r math dysgwyr yn debygol o allu ail-greu’r dysgu er mwyn bodloni eu hanghenion eu hunain.

Y mae llawer o dystiolaeth ar gael sy’n dangos bod cydweithio a rhyngweithio cymdeithasol yn gallu hyrwyddo dysgu, a dweud y gwir, mae’r damcaniaethau dysgu adeileddol gymdeithasol wedi’u hadeiladu ar y cynsail hwnnw.

Felly, beth am ddysgwyr a all gydweithio’n llwyddiannus â’u cymheiriaid, gan gynllunio ac achub y blaen yn yr ystafell ddosbarth ac mewn bywyd, ac wrth wneud hynny, datblygu’r gallu i ymdopi ag amwysedd a risg?

Os dyma’r math o ddysgwyr yr ydym am gael, pa beth bynnag yw eu disgyblaeth neu eu hoedran, yna meddyliwch beth all y dysgwyr hyn gyfrannu wrth iddynt aeddfedu fel dinasyddion ar ôl derbyn eu haddysg.

Fel llawer o wledydd ar draws Ewrop, mae newid enfawr yn digwydd i’r cwricwlwm yng Nghymru, newid sy’n dechrau yn ein Cyfnod Sylfaen ac yn parhau drwy gydol addysg uwchradd, gyda’r gobaith y gwnaiff gael effaith sy’n ymestyn cyn belled ag addysg uwch.

Un o amcanion ein haddysg newydd yw creu cwricwlwm a fydd yn cynorthwyo  disgyblion sy’n barod ar gyfer yr 21ain ganrif a phopeth sydd ganddi i gynnig.

Er mwyn cyflawni hyn, mae’r adolygiad o’n cwricwlwm presennol a’n trefniadau asesu, Dyfodol Llwyddiannus, yn awgrymu bod angen creu ar Gymru fath newydd o ddinesydd, drwy gyfrwng addysg, a dylai dinasyddion newydd Cymru  fod:

“Yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes. Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith. Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.”

Credaf fod yr amcan hwn gan Gymru a’r Cwricwlwm Cymreig yn un ysbrydoledig a chyffrous.

Credaf hefyd, pe baech yn dadansoddi’r hyn y mae’r adolygiad yn ei olygu wrth “ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; ddinasyddion egwyddorol, gwybodus; ac unigolion iach, hyderus” fod datblygu’r math hwn o ‘Ddinesydd Cymru’ yn cyd-fynd â datblygu’r sgiliau sydd wrth galon y fframweithiau EntreComp ac EntreAssess.

Mewn byr eiriau, mae angen i ni hyrwyddo ym myd addysg ddiwylliant o greadigedd; lle gall ein dysgwyr ddysgu ar sail eu camgymeriadau; lle mae ganddynt gydnerthedd sy’n eu galluogi i dderbyn methiant fel profiad dysgu cadarnhaol;  a lle mae ganddynt yr hunan-effeithiolrwydd a’r hunan-barch i wneud pethau ddigwydd.

Y fath o addysg lle mae cymhelliant yn troi’n gynnwrf.

  • Mae Dr Jan Barnes yn Uwch Ddarlithydd mewn Ymchwil ac Ymholi Trawsgwricwlaidd sydd Agos at arfer yn Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Leave a Reply