Mae’r Prosiect CAMAU wedi cyhoeddi Adroddiad Ymchwil sylweddol heddiw sy’n llywio agwedd hanfodol ar ddiwygio’r cwricwlwm i Gymru.
Nod y prosiect CAMAU, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Glasgow, yw meithrin dealltwriaeth gyffredin o ‘ddilyniant’ yn arferion dysgu plant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 mlwydd oed, a hynny yng nghyd-destun Dyfodol Llwyddiannus.
Cyhoeddwyd adolygiad eang yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn 2015, a chynigiodd gyfle i ailymweld ac ailddatgan dibenion sylfaenol addysg ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Roedd y glasbrint i ddiwygio’r cwricwlwm, a ddeilliai o hynny, yn amlygu nifer o argymhellion sy’n cael eu gweithredu, a hynny wrth baratoi ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm yn 2022.
Sefydlwyd y prosiect CAMAU, trwy gyllid gan PCYDDS a Llywodraeth Cymru, i gydweithio ag athrawon a gwneuthurwyr polisi i ddatblygu fframweithiau dilyniant ar gyfer pob rhan o’r cwricwlwm. Lluniwyd y disgrifiadau hyn o ddilyniant o ran dysgu ar sail tystiolaeth, ac maent yn cefnogi arferion asesu sy’n gyson ag ‘ysbryd’, yn hytrach na ‘llythyren’, y broses o asesu ar gyfer dysgu.
Mae’r Adroddiad Ymchwil, a gyhoeddir heddiw, yn amlygu’r gwaith a wnaed hyd yma i nodi themâu allweddol sy’n codi yn sgil gwaith ymchwil, a hynny o ganlyniad i arolwg o bolisïau ac arferion mewn sawl gwlad, yn ogystal ag o Dyfodol Llwyddiannus. Mae’r Adroddiad Ymchwil yn esbonio’r modd y mae’r canfyddiadau wedi cael eu hystyried gan athrawon o’r Ysgolion Arloesi, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru, wrth iddynt gydweithio â thîm CAMAU i ddatblygu’r fframweithiau dilyniant.
Cyhoeddir yr Adroddiad Ymchwil mewn tri fformat:
- Yr adroddiad llawn;
- Is-adroddiadau ar bob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad;
- ‘O’r Syniad i’r Sylwedd’, sy’n crynhoi’r canfyddiadau allweddol.
Mae’r dogfennau hyn yn cynnig cipolwg unigryw ar y ddamcaniaeth a’r drafodaeth sy’n sail i’r gwaith o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru – Cwricwlwm am Oes.
Mae staff o’r Athrofa, PCYDDS, Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow, a Llywodraeth Cymru wedi cwrdd yn rheolaidd â chyd-weithwyr mewn Ysgolion Arloesi i roi’r weledigaeth, a nodwyd yn nogfen lywio’r Athro Donaldson, ar waith.
Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith pwysig hwn, ac rydym wedi cael ein cyffroi gan yr her i ddatblygu trefniadau asesu newydd ac arloesol i Gymru, a hynny mewn partneriaeth â chyd-weithwyr.
“Mae cyhoeddi’r adroddiad hwn yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru – ac mae’n ffrwyth llafur misoedd lawer o ymrwymiad gan ysgolion a phrifysgolion, fel ei gilydd.
“Mae Dyfodol Llwyddiannus yn torri tir newydd, ac mae gennym gyfle unigryw i saernïo system addysg y gallwn fod yn hynod falch ohoni, ac un y mae cynnydd dysgwyr yn ganolog iddi.”
Dywedodd yr Athro ar gyfer Asesu ac Arloesedd Addysgol, Prifysgol Glasgow, Louise Hayward: “Calon dysgu yw cynnydd, ac mae partneriaeth wrth wraidd newid. Mae Dyfodol Llwyddiannus yn cydnabod pwysigrwydd y ddwy egwyddor.
“Mae’n fraint i Brifysgol Glasgow a PCYDDS, fel ei gilydd, gael y cyfle i gydweithio â gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yng Nghymru i ymchwilio i’r her asesu ryngwladol hon. Ni ellir cyflawni’r un newid ystyrlon oni bai fod ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yn gweithio gyda’i gilydd.
“Mae’r Adroddiad Ymchwil, a gyhoeddir heddiw, yn tystio’r modd pwerus y mae’r tair cymuned dan sylw yn gweithio gyda’i gilydd yn rhan o’r Prosiect CAMAU i lunio disgrifiadau dysgu sy’n seiliedig nid yn unig ar waith ymchwil a pholisïau cenedlaethol a rhyngwladol, ond hefyd ar brofiadau go iawn o ddilyniant mewn ysgolion ac ystafelloedd dosbarth.”
Gallwch lawrlwytho’r adroddiadau trwy glicio ar y dolenni isod:
CAMAU Dysgu am Ddilyniant Adroddiad Ymchwil 2018 21.06.18
CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Ieithoedd Llythrennedd a Chyfathrebu
Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Mathemateg a Rhifedd
Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Y Celfyddydau Mynegiannol
Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Iechyd a Lles
Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 O Syniadau i Weithredu
CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Y Dyniaethau 21.06.18
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddatblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru trwy ddilyn y ddolen hon: https://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/curriculuminwales/curriculum-for-wales-curriculum-for-life/?skip=1&lang=cy