Tynnwyd sylw at bwysigrwydd arweinyddiaeth o ran gyrru newid addysgol yng Nghymru yn ei flaen mewn adroddiad newydd gan gynghrair arweiniol o arbenigwyr rhyngwladol.

Bu ail gyfarfod Comisiwn Addysg Cymru yn ystyried yr effaith fawr y mae arweinyddiaeth yn ei chael ar safonau ysgolion, gan adfyfyrio ar beth mae rhai o’r systemau addysg sy’n perfformio orau yn y byd wedi’i wneud i gefnogi arweinwyr ysgol.

Mae’n dilyn ymrwymiad Kirsty Williams, Ysgrifennydd dros Addysg, i gryfhau arweinyddiaeth ysgol drwy Academi Genedlaethol newydd a fydd yn sicrhau y gall pob arweinydd yn system addysg Cymru fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o safon uchel.

Mae’r Comisiwn yn dod â meddylwyr addysg o bob cwr o’r byd at ei gilydd, ac ymatebodd i agenda arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru drwy gyflwyno nifer o sylwadau i brocio’r meddwl ynghylch arfer gorau ar draws y byd.

Edrychodd ar strategaethau arweinyddiaeth llwyddiannus yng Nghanada, UDA a’r Alban a chafodd gipolwg unigryw ar ysgogi penaethiaid ysgol yn ystod rhaglen nodedig ‘Her Llundain’.

Yn ei ail adroddiad i’r gymuned addysg, roedd y Comisiwn o’r farn bod yr ymgais am arweinyddiaeth systemau effeithiol ar bob lefel o fewn system addysg Cymru “o’r pwysigrwydd mwyaf”.

Meddai: “Pwysleisiodd yr aelodau’r angen i greu diwylliant ar gyfer newid, gan gydnabod bod Cymru wedi cychwyn ar ddiwygio’r system yn gyfan gwbl.  Bydd hyn yn gofyn am symudiad o ran meddylfryd ac ymddygiad ar draws yr holl broffesiwn addysg.

“Felly, mae’r her i arweinwyr ar bob lefel yn fawr a byddan nhw’n hollbwysig er mwyn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru yn llwyddiannus.  Mae arweinyddiaeth wasgaredig yn strategaeth allweddol o ran rhannu’r cyfrifoldeb hwn.

“Nododd y Comisiwn fod elfen o angen gweithredu’n ddiymdroi’n gysylltiedig â gwella perfformiad yng Nghymru – ond na allai hyn ddigwydd ar draul datblygu’r gweithlu ehangach a byddai angen ewyllys wleidyddol gref i ddal ati tan y diwedd a chaniatáu i bolisi newydd ymsefydlu.

“Anogodd Lywodraeth Cymru i fod yn eglur ynghylch sut y bydd llwyddiant ei blaenoriaethau’n cael ei fesur ac i geisio cyfleu’r neges honno i’r holl randdeiliaid.”

Mae’r Comisiwn yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn gan ystyried addysg ymhob cyfnod, ac mae’n un o brif linynnau Athrofa Addysg newydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Pwrpas deuol y grŵp yw helpu i arwain gwaith yr Athrofa a’i Phartneriaeth Dysgu Proffesiynol o ysgolion a staff prifysgol, ar yr un pryd â chyfrannu’n weithredol i’r drafodaeth ehangach ynghylch addysg yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Cyfarwyddwr yr Athrofa ac Ysgrifennydd i’r Comisiwn, y byddai dysgu gan bartneriaid o bob cwr o’r byd o fudd enfawr i Gymru.

Meddai: “Mae’r doreth o arbenigedd rhyngwladol rydym wedi dod ag ef i Gymru yn caniatáu i ni adfyfyrio’n feirniadol, mewn modd arloesol, ynghylch beth yw’r datblygiadau priodol ar gyfer ein system addysg.

“Boddhad mawr i mi yw’r cymorth y bydd y grŵp nodedig hwn o unigolion yn ei ddarparu. Mae pob un ohonyn nhw wedi ennill parch aruthrol am y cyfraniad y mae wedi’i wneud i wella addysg drwy’i waith ei hun.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar agenda ddiwygio uchelgeisiol a gobeithio y bydd y ddealltwriaeth ehangach a ddarperir gan Gomisiwn Addysg Cymru yn helpu i lyfnhau unrhyw dwmpathau posibl yn y ffordd.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru ac nid yw’r diwylliant o gydweithio sy’n cael ei feithrin gan Ysgrifennydd y Cabinet yn fwy amlwg yn unman nag yn ein cynghrair arweiniol o arbenigwyr rhyngwladol.”

Yn ystod ei drafodaeth, clywodd y Comisiwn dystiolaeth gan Gillian Hamilton, Prif Weithredwr Coleg yr Alban ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a sefydlwyd yn 2014 i gefnogi dysgu proffesiynol mewn arweinyddiaeth gan athrawon ar bob lefel ar draws ysgolion yr Alban.

Mae gan bob aelod o’r Comisiwn ei record ei hun o lwyddiant rhagorol yn ei faes penodol, a gofynnwyd iddynt wedyn roi sylwadau ar bolisi addysg cyfredol a chynnig awgrymiadau yn seiliedig ar eu profiad rhyngwladol a’u harbenigedd.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys Dr Carol Campbell, Athro Cysylltiol mewn Arweinyddiaeth a Newid Addysgol ym Mhrifysgol Toronto; yr Athro Trevor Gale, Pennaeth yr Ysgol Addysg, Prifysgol Glasgow; Laura Perille, Prif Weithredwr EdVestors, Boston; Mick Waters, Athro mewn Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton; a David Woods, Athro mewn Addysg ym mhrifysgolion Warwick a Llundain.

Cynhaliwyd ail gyfarfod y Comisiwn yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe a gellir gweld ei adroddiad dilynol yn llawn, ynghyd ag argymhellion i Gymru a Llywodraeth Cymru, yma.

Leave a Reply