Mae cymhwysedd byd-eang a chynaliadwyedd yn dod yn destun siarad mewn ysgolion ledled y wlad. Yma, mae Alex Southern yn cyflwyno prosiect rhyngwladol newydd a ddylunnir i gefnogi datblygiad sgiliau allweddol yr 21ain ganrif sy’n ofynnol ar fyd sy’n newid yn gyson…

Yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd, bu staff yr Athrofa yn ddigon ffodus i deithio i Frwsel er mwyn ymweld ag Atheneum Unesco Koekelberg ysgol uwchradd Iseldireg GO!

Education y Gymuned Ffleminaidd. Roedd ymweld â’r ysgol yn rhan o gyfarfod deuddydd i ddechrau prosiect cyffrous newydd Erasmus o’r enw Think Global. Mae’r prosiect yn dod â saith sefydliad ynghyd, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a phrifysgolion o Gatalonia, Gwlad Belg a Chymru.

Y bwriad yw archwilio addysgegau a gweithgareddau er mwyn cefnogi sgiliau, gwybodaeth ac anianawd cymhwysedd byd-eang yn yr ystafell ddosbarth, sy’n tynnu ar fframwaith Cymhwysedd Byd-eang PISA a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r OECD.

Drwy gydol y ddwy flynedd pan gynhelir y prosiect, gwnaiff y tîm Think Global beilota a datblygu adnoddau ystafell ddosbarth, modelau arfer gorau, ac adeiladu fframwaith damcaniaethol ynghylch cymhwysedd byd-eang.

Bu’r cyfarfod deuddydd i’w ddechrau yn gyfle gwych i gwrdd â phartneriaid y prosiect a rhannu syniadau a gwybodaeth gyda’n cydweithwyr Ewropeaidd. Bydd y tîm prosiect yn cwrdd eto ym mis Chwefror yn Barcelona am ddigwyddiad hyfforddi pum diwrnod o hyd, lle y byddwn yn dysgu mwy am Gymhwysedd Byd-eang a sut y gallwn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Byddwn yn defnyddio’r blog hwn i’ch diweddaru wrth i’r prosiect ddatblygu, ac fel ffordd o rannu ein canfyddiadau a rhoi mewnwelediad i’r hyn sy’n gweithio.

Yn y cyfamser, am ragor o wybodaeth am y prosiect a’n partneriaid, darllenwch gylchgrawn Think Global.

  • Mae Dr Alex Southern yn Gydymaith Ymchwil yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply