Un o systemau addysg blaenllaw’r byd yw ffocws symposiwm arbennig a gaiff ei gynnal yng Nghaerdydd yn ystod yr hydref.

Gwnaiff yr Athrofa, yn ei digwyddiad ‘Tales from Toronto’ a gynhelir ddydd Iau, Medi 28ain, gyflwyno mewnwelediad unigryw i fyd addysg Ontario, Canada.

Mae’r symposiwm, a gaiff ei gynnal yn Tramshed Tech, gerllaw Gorsaf Reilffordd Caerdydd Canolog, yn cynnwys cyfraniadau gan gynrychiolyddion yr Athrofa a wnaeth ymweld â Toronto ym mis Mehefin.

Gwnaeth ymweliad astudio a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig gynnwys cyfarfodydd gydag uwch swyddogion Gweinyddiaeth Addysg Ontario, Coleg Athrawon Ontario a’r Swyddfa Ansawdd Addysg ac Atebolrwydd (SAAA).

Yn ogystal â’r rhain, ymwelwyd ag ysgolion elfennol, canol ac uwchysgolion, lle cafodd y cynrychiolyddion gyfle i rannu syniadau gyda phenaethiaid, athrawon a disgyblion.

Croesawyd staff yr Athrofa, uwch gynrychiolwyr Adran Addysg Llywodraeth Cymru a phenaethiaid ysgolion ardaloedd GCA, ERW a Chonsortiwm Canolbarth y De gan y mawreddog Ontario Institute for Studies in Education (OISE), sydd yn rhan o Brifysgol Toronto.

Dywedodd yr Athro Peter Rabbett, Dirprwy Ddeon yr Athrofa ac arweinydd y cynrychiolyddion “Rhoddwyd i aelodau’r ymweliad astudio mewnwelediad diddorol iawn i un o systemau addysg blaenllaw’r byd.

“Gwnaiff Tales from Toronto roi i’r sawl a oedd yn bresennol ar y daith y cyfle i rannu’r hyn y gwnaethant ei ddysgu, y da yn ogystal â’r gwael, gyda chydweithwyr. Ni ddylid colli’r cyfle i glywed eu hadfyfyriadau ar yr esiampl flaenllaw ryngwladol hon o arferion da!”

Mae Tales from Toronto yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n agored i ysgolion partner a chyfeillion yr Athrofa.

Gofynnir i westeion gyrraedd o 6pm ymlaen, er mwyn cychwyn am 6.30pm.

Bydd copïau o adroddiad yr Athrofa ar system addysg Ontario ar gael ar y noswaith.

Am ragor o wybodaeth, ac i gadarnhau eich presenoldeb, cysylltwch â Lesley Morgan gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost lesley.morgan@uwtsd.ac.uk