Blaen-arbenigwr ar y cwricwlwm yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon

Gwahoddwyd un o ffigurau blaenllaw addysg yng Nghymru i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon. Yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr addysg ac awdur adroddiad Llywodraeth Cymru ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a draddododd y prif anerchiad yng nghynhadledd flynyddol ‘Anelu at Ragoriaeth’ y Drindod Dewi Sant ynghylch ei gynigion ar gyfer cwricwlwm…

Dathlu diwylliant Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd gan ein hysgolion rôl fawr i chwarae wrth anelu at hyn. Aeth myfyrwyr Uwchradd TAR Cymraeg i Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont i weld os oedd disgyblion yn elwa o Gymreictod yr ŵyl…   Wrth arsylwi gwers Gymraeg Ail Iaith…

Ymagwedd newydd at fathemateg yn rhan bwysig o’r hafaliad

Dr Sofya Lyakhova a Dr Howard Tanner yn ystyried datblygiad Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg…   Mae’r cyhoeddiad diweddar (3.11.16) gan yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, ynghylch creu Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg i’w groesawu gan rieni, athrawon a myfyrwyr yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod economaidd cythryblus hwn, mae’n briodol iawn…

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dod ag arweinwyr addysgol at ei gilydd i gefnogi gwella ysgolion yng Nghymru

Mae rhai o feddylwyr addysgol mwyaf blaenllaw’r byd wedi dod at ei gilydd i gefnogi gwella ysgolion yng Nghymru. Mae Comisiwn Addysg Cymru wedi cael ei sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i helpu hwyluso gwelliannau mewn dysgu ac addysgu. Gofynnwyd i’r aelodau, pob un â’i record o lwyddiant eithriadol yn eu meysydd…

Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd

Gyda’r paratoadau ar gyfer cynhadledd Ymchwil Addysg gyntaf Yr Athrofa yn cyrraedd penllanw, ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’, mae Mererid Hopwood yn codi clawr adroddiad a gyhoeddwyd 90 mlynedd yn ôl: ‘Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd’…   1927 Mae’n flwyddyn arwyddocaol. Dyma flwyddyn sefydlu’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Syr John Reith,…

Gweinidog yn cefnogi cydweithio fel yr allwedd i lwyddiant

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i’w champws yng Nghaerfyrddin i drafod y cyfleoedd sydd ar gael drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector addysg uwch. Cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru a’r Brifysgol, trwy weithio gyda’i gilydd, sicrhau’r defnydd gorau posibl o adnoddau a meithrin…