NewyddionKirsty Williams - Camera Lens

Cyflwynir prif anerchiad gan Yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, fel rhan o Gyfres Seminarau’r Athrofa.

Bydd Yr Athrofa, sef Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn croesawu Ms Williams i’w lleoliad yn y Tramshed Tech, Caerdydd, ddydd Llun Ebrill 23ain am 6pm.

Trafodir gan Ms Williams, o flaen gynulleidfa o addysgwyr, ei hagenda addysg a’i chynllun ar gyfer codi safonau ysgolion.

Mae’r digwyddiad hwn yn dilyn yn sgil seminar llwyddiannus yr Athrofa, sef ‘Straeon o Doronto’, a wnaeth gynnwys cyfraniadau gan staff y brifysgol, swyddogion Llywodraeth Cymru a phob un o’r pum pennaeth ysgol a deithiodd haf diwethaf i Ganada.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa: “Mae’n bleser o’r mwyaf gennym unwaith eto groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’r Athrofa ar gyfer digwyddiad sy’n argoeli bod yn un hynod o ddiddorol.

“Rhannwn uchelgais Ysgrifennydd y Cabinet i drawsnewid addysg er lles pob dysgwr – ac ystyriwn mai ein cenhadaeth genedlaethol yw manteisio ar y cryfder hwnnw sydd i’w gael o fewn system addysg Cymru a thu hwnt.”

Ymwelwch ag Eventbrite i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Leave a Reply