NewyddionKirsty Williams speech

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, fel rhan o Gyfres Seminarau’r Athrofa.

Ddydd Llun bu’r Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn llwyfan i anerchiad o bwys gan Ms Williams yn y Tramshed Tech, Caerdydd.

Dywedodd Ms Williams wrth gynulleidfa o staff ysgol, darlithwyr prifysgol ac athrawon dan hyfforddiant, y dylai dysgwyr ddefnyddio’r cyfleoedd niferus sydd ar gael ar eu cyfer, wrth iddynt symud ymlaen yn eu haddysg.

Daeth y seminar i ben gyda phanel a wnaeth gynnwys Rhonwen Morris, pennaeth cynorthwyol Ysgol Bartner Arweiniol yr Athrofa, sef Ysgol Y Preseli, a leolir yn Sir Benfro; Connor Williams, athro dan hyfforddiant ar ei drydedd flwyddyn yn yr Athrofa; a Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.

Cynhaliwyd y digwyddiad o flaen llaw ymgynghoriad technegol Llywodraeth Cymru sydd ar ddod ar Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – Y Camau Nesaf).

Meddai Ms Williams: “Rwy’n cefnogi a byddaf bob amser yn cefnogi dosbarthiadau chwech. Rwyf hefyd yn credu’n gryf mewn cymysgedd da o ddarpariaeth pan ddaw i addysg a hyfforddiant ôl-16.

“Mae angen i ni gael llawer mwy o gysondeb wrth gefnogi ein dysgwyr drwy’r cyfnod hollbwysig hwn yn eu haddysg ac ymlaen i ba lwybr bynnag y byddan nhw’n penderfynu sydd orau iddyn nhw.”

Ynglŷn â’i hymrwymiad i system deg a rhagorol, meddai: “Nid ydym ni’n cyfrif unrhyw un, nac unrhyw le, yn fethiant. Mae gennym ni ddisgwyliadau uchel, gyda’r gefnogaeth iawn, ar yr adeg iawn, i’r holl fyfyrwyr, ysgolion a lleoliadau.

“Trwy gredu mewn system gyfun annetholus, rwy’n cyfaddef ein bod ni’n gosod her i’n hunain, o gymharu â systemau eraill. Ond her ydyw sydd ag argyhoeddiad moesol. Fel gwlad fach, ni allwn ni adael neb ar ôl.

Cyflwyniad Ms Williams oedd yr ail yng Nghyfres Seminarau’r Athrofa, a dilynodd yn sgil y digwyddiad llwyddiannus ‘Straeon o Doronto’ a gynhaliwyd ym mis Medi ac a wnaeth gynnwys cyfraniadau gan staff y brifysgol, swyddogion Llywodraeth Cymru a phum pennaeth ysgol a deithiodd haf diwethaf gyda’r Athrofa i Ganada.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa: “Rydym wrth ein boddau bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis i wneud ei chyhoeddiad yn yr Athrofa, un a wnaeth roi digon i ni feddwl amdano.

“Roedd Seminar yr Athrofa, a gynhaliwyd nos Lun, yn arbennig o ddiddorol, a dymunwn roi diolch i bawb a oedd yn bresennol. Diolchwn hefyd ein cydweithwyr yn Tramshed Tech, lleoliad ein gweithrediad Athrofa yng Nghaerdydd.

“Roedd hi’n hyfryd gweld Barry, Rhonwen a Connor yn cymryd rhan ar y panel cloi, ac yn ateb cwestiynau gydag Ysgrifennydd y Cabinet ei hun. Mae hyn yn personoli popeth yr ydym yn ceisio ei wneud fel Athrofa, un sydd wedi ei hadeiladu ar bartneriaethau ac ar rannu adnoddau er budd pawb yng Nghymru.

“Drwy gydweithio, gallwn gyflawni cymaint yn fwy – ac ystyriwn mai ein cenhadaeth genedlaethol yw manteisio ar y cryfder hwnnw sydd i’w gael o fewn system addysg Cymru a thu hwnt.

“Mae’r Athrofa yn rhan o’r system ac yn gweithio ar ran y system – rydym yma i wella cyfleoedd bywyd pob plentyn a pherson ifanc.”

Leave a Reply