NewyddionGraham Donaldson Speaking

Yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr ar y cwricwlwm, yw’r prif siaradwr yn y gynhadledd Anelu at Ragoriaeth ddydd Iau.

Trefnwyd y gynhadledd Anelu at Ragoriaeth gan yr Athrofa i ddathlu’r arfer rhagorol sy’n digwydd yn ysgolion Cymru ac mae’n cynnwys cyflwyniadau gan ddarlithwyr, staff ysgolion a llu o athrawon dawnus dan hyfforddiant.

Ac yntau’n un o ffigurau blaenllaw addysg yng Nghymru, yr Athro Donaldson oedd awdur adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ Llywodraeth Cymru ar gwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru.

Mae chweched gynhadledd flynyddol Anelu at Ragoriaeth yn cychwyn am 9.15am (ddydd Iau 3 Mai) a disgwylir denu cynulleidfa o fwy na 600 o bobl.

Mae’r digwyddiad yn arddangos nifer o ysgolion Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) ac fe’i cynhelir yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli.

Gwyliwch yr holl ddigwyddiadau yma drwy ein ffrwd fyw.

Leave a Reply