NewyddionBlackboard

Cynhelir cynhadledd genedlaethol bwysig, sy’n canolbwyntio ar ymchwil ym maes mathemateg, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ystod yr haf.

Dyma’r tro cyntaf i’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Ymchwil i Ddysgu Mathemateg (British Society for Research into Learning Mathematics – BSRLM) gynnal ei chynhadledd haf yng Nghymru.

Bydd Ysgol Fusnes PCYDDS, sydd wedi’i lleoli yn Abertawe, yn cynnal y digwyddiad hwn ddydd Sadwrn, Mehefin 9fed, o 10am tan 5pm.

Dr Jane Waters, Deon Cynorthwyol Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth Yr Athrofa, fydd un o’r prif siaradwyr ar y diwrnod blaenorol, y Diwrnod ar gyfer Ymchwilwyr Newydd, sef dydd Gwener, Mehefin 8fed o 10am tan 5.45pm.

Bydd y ddau ddiwrnod yn rhoi cyfle unigryw i gyfranogwyr ddatblygu eu dysgu proffesiynol ac i rwydweithio gyda chydweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes pwysig hwn, sef mathemateg.

Caiff cynrychiolwyr hefyd gyfle i gyflwyno eu gwaith yn y gynhadledd – y terfyn amser ar gyfer gwneud cynnig i gyflwyno Papur Ymchwil, Gweithdy Ymchwil neu Sesiwn Weithgor  yw 5pm ddydd Gwener, Mai 11eg.

Meddai Helen Denny, trefnydd y digwyddiad, ac un o uwch ddarlithwyr Yr Athrofa: “Mae cynnal cynhadledd haf y BSRLM eleni wedi ein cynhyrfu’n fawr – dyma’r tro cyntaf i’r gynhadledd gael ei chynnal yng Nghymru.

“Mae digon o gyfleoedd ar gael i chi gyfrannu at y digwyddiad – a charem eich gweld yno am o leiaf diwrnod, neu yn well byth, am y ddau ddiwrnod!”

Sefydliad sydd ganddo aelodau yw’r  BSRLM, ar gyfer pobl sy’n ymddiddori mewn ymchwilio i addysg fathemateg, ac mae’n darparu amgylchedd cynorthwyol er mwyn bod ymchwilwyr newydd a phrofiadol yn gallu datblygu eu syniadau.

Pris tocynnau ar gyfer y Gynhadledd i aelodau’r BSRLM cyn Mehefin 1af yw £25. Gallwch ddod o hyd i fanylion y Diwrnod ar gyfer Ymchwilwyr Newydd yma, a cheir manylion pellach am y brif gynhadledd yma.

Leave a Reply