Newyddionwoman in jeans walking

Mae Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cymryd camau mawr i fyny dau dabl cynghrair blaenllaw.

Mae’r Guardian University Guide a’r Complete University Guide ill dau’n dangos gwelliannau sylweddol.

Yn nhabl y Guardian 2019, gosodwyd y Drindod Dewi Sant yn safle 50 am addysg – i fyny 23 safle o’r ymddangosiad cyntaf y llynedd.

Cododd y brifysgol ei hun 27 safle – y trydydd cynnydd cydradd uchaf o’r holl 121 o brifysgolion yn y DU a gynhwyswyd yn y tabl.

Cafwyd mwy o newyddion cadarnhaol yn y Complete University Guide, a osododd y Drindod Dewi Sant yn y 15fed safle yn y DU am addysg.

Mae’r tablau cynghrair yn dilyn perfformiad trawiadol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr mwyaf diweddar, gyda’r Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am foddhad myfyrwyr mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa: “Rydym ni wrth ein boddau bod ein gwaith caled a’n hymdrechion wedi’u cydnabod mewn tablau cynghrair o fri.

“Mae ein staff ymroddedig a’n cydweithwyr arloesol mewn ysgolion partner yn canolbwyntio’n fanwl ar godi safonau i bawb yng Nghymru ac mae’r canlyniadau hyn yn arwydd sylweddol o hyder yn y gwaith a wnawn gyda’n gilydd.

“Mae Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) yn codi momentwm a gwelwn hyn fel cyfrwng pwysig ar gyfer newid cadarnhaol wrth i ni deithio drwy gyfnod o ddiwygiadau addysg cynhwysfawr.

“Nid ydym yn hunanfodlon ac mae llawer i’w wneud o hyd i wireddu Cyd-genhadaeth ein Cenedl ar gyfer addysg yng Nghymru, ond mae’r tablau cynghrair hyn yn arwydd clir ein bod yn symud i’r cyfeiriad iawn.”

Leave a Reply