Mae academydd o Gymru wedi cyflwyno dau bapur mewn cynhadledd ryngwladol bwysig yn yr Unol Daleithiau.
Siaradodd Dr Helen Lewis, uwch-ddarlithydd yn yr Athrofa Addysg, yn y 18fed Gynhadledd Ryngwladol ar Feddwl (International Conference on Thinking – ICOT) a gynhaliwyd ym Miami, Fflorida.
Daeth y gynhadledd ag ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw ynghyd o bob rhan o’r byd.
Ceisiodd y digwyddiad archwilio strategaethau ar gyfer ennyn diddordeb pobl, o blant bach i bobl hŷn, ynghylch deall materion y byd sydd ohoni o wahanol safbwyntiau.
Gyda’i duedd drawsddisgyblaethol, tynnodd ar wahanol feysydd, megis addysg, niwrowyddoniaeth, gwyddorau iechyd, y celfyddydau, chwaraeon, busnes, anthropoleg, hanes a thechnoleg. Ymhlith y prif siaradwyr oedd yr Athrawon Howard Gardner, Shari Tishman, David Perkins, Guy Claxton a Carol McGuinness.
Canolbwyntiodd papur cyntaf Dr Lewis ar sut y gall ymyriadau a gynorthwyir gan anifeiliaid, yn benodol rhaglen darllen i gŵn, wella sut mae plant yn gweld eu hunain fel dysgwyr galluog a hyderus.
Archwiliodd ei hail bapur fanteision defnyddio fideos ar arferion ystafell ddosbarth fel man cychwyn ar gyfer adfyfyrio a chynnal trafodaeth.
Awgryma ei hymchwil y gallai’r dull hwn gynorthwyo athrawon i addysgu meddwl yn fwy effeithiol, yn ogystal â chynorthwyo dysgwyr ifanc i feddwl yn fetawybyddol.
Meddai Dr Lewis, a benodwyd yn ddiweddar yn Gydymaith Addysg Gynnar cyntaf Cymru, ac a enwebwyd yn rhan o bwyllgor ‘Let’s Think’ y Fforwm Cenedlaethol: “Roedd y gynhadledd yn wir ysbrydoledig. Roedd hwn yn gyfle ffantastig i glywed gan arbenigwyr mewn gwahanol feysydd, megis metawybyddiaeth, agweddau dysgu, a meddwl creadigol a beirniadol.
“Daeth cynrychiolwyr o bob rhan o’r byd ynghyd i rannu eu hymchwil a’u harferion ystafell ddosbarth. Yn arbennig o ddiddorol oedd cyflwyniad Temple Grandin, a wnaeth ystyried yr ymennydd awtistig; ymchwil Mary Helen Immordino-Young ar emosiynau a datblygiad yr ymennydd; trafodaeth David Perkins ar wir ystyr bod yn glyfar; a sgwrs Shari Tishman ar rym ‘Meddwl yn Araf’.
“Trafododd yr Athro Carol McGuinness dystiolaeth ryngwladol ar sut y caiff cymwyseddau meddwl eu hyrwyddo’n effeithiol, a gwnaeth llawer o’i negeseuon allweddol gyd-fynd â chenhadaeth ein cenedl yma yng Nghymru. Ar ôl fy nghyflwyniadau fy hun, roedd hi’n galonogol i weld cymaint o ddiddordeb yn y datblygiadau arloesol i’r cwricwlwm, a’r ymchwil sy’n digwydd yn y cyd-destun Cymreig.”
Yn ddiweddar, ysgrifennodd Dr Lewis ddau lyfr ar y cyd sy’n ymwneud â meddwl; y naill lyfr yn cynnwys syniadau ymarferol ar gyfer cynorthwyo meddwl creadigol a beirniadol plant, a’r llall yn cynnwys astudiaethau achos lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar sut mae ysgolion yn mynd i’r afael ag addysgu meddwl. Caiff y ddau ohonynt eu cyhoeddi yn hwyrach eleni.
Ewch i e-bost h.e.lewis@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.