Newyddionface with colourful hands

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a‘r ysgolion sy’n bartneriaid â hi wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i ddarparu rhaglenni newydd arloesol addysg gychwynnol athrawon (AGA) o fis Medi 2019 ymlaen.

Mae’r rhaglenni a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA), sef cydweithrediad sy’n cynnwys Yr Athrofa’r Drindod Dewi Sant a rhwydwaith o fwy na 100 o ysgolion, wedi derbyn achrediad gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Bu’n rhaid i Bartneriaethau yng Nghymru gyflwyno erbyn 1 Rhagfyr, 2017, eu rhaglenni AGA arfaethedig, ar sail y meini prawf manwl a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i fodloni anghenion diwygiadau addysg amrywiol iawn.

Wedyn ymwelodd panel achredu annibynnol â PDPA , a bellach mae wedi argymell rhaglenni’r PDPA i’w cymeradwyo.

Caiff y rhaglenni newydd eu rhoi ar waith ym mis Medi 2019 ac maent wedi eu llunio gyda golwg ar ofynion y cwricwlwm cenedlaethol a’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd.

Yn natblygiad PDPA, gwelir dull newydd ac arloesol o ddarparu addysg athrawon, a’r Athrofa a’r ysgolion sy’n bartneriaid iddi yn gyfrifol ar y cyd am greu a darparu’r holl raglenni AGA.

Wrth wraidd model AGA PDPA mae’r ddealltwriaeth bod ysgolion a phrifysgolion yn gyd-bartneriaid, gyda rhan annatod i’w chwarae yn natblygiad addysg athrawon, llywodraethu’r bartneriaeth a’r prosesau sydd eu hangen ar gyfer sicrhau ansawdd trwyadl.

Mae cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir bwysig arall yn hanes hir y brifysgol ym maes addysg athrawon, a gyda’i gilydd mae gan Y Drindod Dewi Sant ac ysgolion partner hanes profedig o addysgu a mentora myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Deon Yr Athrofa: “Rydym wrth ein bodd bod y rhaglenni arloesol a gyflwynwyd gan PDPA i’w hachredu wedi eu cymeradwyo gan banel annibynnol y CGA.

“Roedd y rhaglenni’n deillio o dros ddwy flynedd o gydadeiladu a oedd yn cynnwys llawer o fewnbwn gan y staff mewn ysgolion ac yn y brifysgol. Hoffwn longyfarch pawb a diolch i bob un a gyfrannodd i’w datblygu.

“Rhoddodd cydweithwyr lawer o’u hamser a’u hegni i baratoi ein cynnig AGA newydd – ac mae’r canlyniad cadarnhaol hwn yn wobr haeddiannol am eu hymdrechion. Rhaid canmol ysbryd pawb wrth gyflawni’r gwaith hynod bwysig hwn ac mae’n adlewyrchu grym partneriaethau mewn addysg.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach â phartneriaid ar draws y system addysg i sicrhau bod y to nesaf o athrawon dosbarth yn y lle gorau i arwain ar gwricwlwm cenedlaethol newydd a chyffrous Cymru.

“Rydym yn falch dros ben o’r hyn rydym wedi ei greu gydag ysgolion ac yn eiddgar i fynd i’r afael â’r cyfleoedd sy’n ein disgwyl ni.”

Meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: “Rwy’n hynod falch bod enw da hir-sefydlog y Brifysgol a’i hanes arbennig o gryf ym maes addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon yn parhau a bydd ein partneriaeth gydag ysgolion yn arwain y ffordd er mwyn datblygu cymunedau dysgu hyderus ac adfyfyriol.

“Wrth greu’r Athrofa addysg ein bwriad oedd arwain newid trawsnewidiol a chefnogi system addysg hunan-wella, yn unol â pholisïau addysg athrawon, diwygio’r cwricwlwm a gwella ysgolion Llywodraeth Cymru. Mae sefydlu Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa mewn partneriaeth â’r proffesiwn yn rhan o’r newid hwnnw.

“Gyda’n gilydd rydym wedi sefydlu canolfannau strategol ar draws y rhanbarth i gynnig rhaglenni newydd fydd yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar athrawon yfory er mwyn sicrhau bod plant Cymru yn cael pob cyfle i ddatblygu eu potensial ac i ffynnu.”

Leave a Reply