NewyddionSA1

Mae’r Athrofa yn edrych ymlaen at bennod newydd gyffrous yn ei hanes hir a chlodwiw ar ôl symud i gyfleusterau modern newydd ynghanol safle glannau Abertawe.

Mae’r datblygiad trawiadol yn cynnwys cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu a gwaith ymchwil, yn ogystal â lle cymdeithasol, hamdden ac ymlacio.

Mae’n dod â chysylltiad hir Yr Athrofa â Champws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Townhill i ben ac yn ychwanegu at bresenoldeb parhaus yr Athrofa yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd.

Mae datblygu pentref dysgu ac arloesi yn ardal SA1 Abertawe yn ategu nod Y Drindod Dewi Sant o ysbrydoli unigolion a datblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol a all wneud gwahaniaeth go iawn i gymdeithas.

Mae gweledigaeth Y Drindod Dewi Sant y  cael ei darparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe, a’r myfyrwyr a’r gweithwyr yn elwa o astudio, gweithio a byw mewn amgylchedd sy’n cynnwys adeiladau modern, cynaliadwy gyda lleoedd gwyrdd awyr agored i’ch adnewyddu.

Yn ogystal â’r penderfyniad i adleoli gweithrediadau’r Athrofa yn Abertawe, mae cytundeb newydd y brifysgol â Sony’n addo dod â chenhedlaeth nesaf technoleg addysg i fyfyrwyr a gwella arlwy’r Athrofa ymhellach fyth.

Mae Sony wedi gweithio gyda’r brifysgol er 2015 i ddatblygu ‘Cyfnewidfa Gweledigaeth’, llwyfan arloesol i hwyluso’r symud o ddarlithfeydd ac awditoria traddodiadol i fannau dysgu modern a fydd yn galluogi arddulliau dysgu cydweithredol a rhyngweithiol.

Mae’r cyfleuster yn caniatáu rhannu cynnwys ymhlith y rhai a oedd yn bresennol mewn lleoedd dysgu, yn ogystal â chyfranogwyr sydd i’w cael mewn mannau eraill, ni waeth beth yw eu lleoliad daearyddol.

Dechreuodd Yr Athrofa dreialu Sony Vision Exchange, a fydd yn cynorthwyo gyda dysgu o bell ac a ddysgwyd i wella ymgysylltiad a chyrhaeddiad, ym mis Medi 2017.

Meddai Deon Yr Athrofa, yr Athro Dylan Jones: “Mae ein cyfleusterau rhyfeddol newydd yn SA1 eisoes wedi denu llawer o sylw ac rydym yn sicr y bydd y staff, myfyrwyr a nifer o’n partneriaid yn mwynhau beth sydd gan yr adeiladau newydd i’w gynnig.

“Mae symud i lannau Abertawe yn garreg filltir bwysig i’r Athrofa ac yn arwydd o’r dyfodol disglair rydyn ni wrthi’n ei greu gyda chydweithwyr ar draws y sbectrwm addysgol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ffrindiau’r Athrofa i’n cyfleusterau newydd y mae pawb yn disgwyl yn eiddgar amdanyn nhw, a hynny yn y dyfodol agos iawn.”

Bydd staff yr Athrofa yn Abertawe yn trosglwyddo i SA1 yn ystod yr haf eleni yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

Yn ogystal ag Abertawe, bydd yr Athrofa’n parhau i weithredu o Gampws Caerfyrddin a Tramshed Tech, Caerdydd.

Mae’r cyfleusterau yn Yr Athrofa Caerfyrddin yn cael eu huwchraddio i adlewyrchu’r rhai sydd ar gael yn natblygiad newydd SA1.

Leave a Reply