NewyddionNorway Group

Rhoddwyd i arbenigwyr rhyngwladol byd addysg fewnwelediad i system addysg Cymru yn ystod eu hymweliad diweddar â’r Athrofa Addysg.

Croesawyd cynrychiolwyr o Norwy, gan gynnwys aelod o Adran Addysg Senedd y Bobl Sámi a grŵp o fyfyrwyr a darlithwyr o Brifysgol Gwyddorau Cymhwysol y Bobl Sámi, i Gampws Caerfyrddin PCYDDS gan dîm Blynyddoedd Cynnar yr Athrofa.

Arweiniwyd y criw gan Athro Addysg Cynorthwyol Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Sámi, Laila Aleksandersen Nutti, ar daith astudio i archwilio a darganfod mwy am addysg a gofal blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg a hynny er mwyn casglu syniadau i gefnogi eu cyd-destun diwylliannol eu hunain.

Yn ystod eu hymweliad, mynychodd y myfyrwyr â Cwtsh Y Clos, Llanarthne, sy’n feithrinfa cyfrwng Cymraeg ac sy’n berchen ac yn cael ei reoli gan cyn fyfyrwyr o’r cwrs Blynyddoedd Cynnar, Gwenllian Stephens ac Ann Davies. Cafodd y grŵp hefyd gyfle i ymweld â dosbarth Chyfnod Sylfaen Ysgol Y Dderwen, lle cafwyd croeso cynnes iawn gan y plant a’r staff.

Roedd cyfle hefyd i ddysgu rhagor am ddiwylliant Cymru a threuliodd yr ymwelwyr amser yng nghwmni’r Athro Mererid Hopwood yn ogystal ag ymweld â Chanolfan S4C Yr Egin gyda Gwilym Dyfri Jones (Pro-Is Ganghellor Cysylltiol y Brifysgol) i gael gwybod mwy am y ffordd mae’r Egin yn cefnogi datblygiadau creadigol a diwylliannol yn lleol.

Darparodd Jen Dafis weithdy rhyngweithiol a oedd yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth iaith a diwylliannol a darparodd Canolfan Peniarth adnoddau blynyddoedd cynnar i gefnogi trafodaethau pellach ar gefnogi diwylliannau lleiafrifol.

Roedd y tîm Blynyddoedd Cynnar yn ddiolchgar iawn bod yr ymwelwyr wedi rhoi o’u hamser a mynychu darlithoedd gyda myfyrwyr y brifysgol gan roi cyflwyniadau gwych ar ddiwylliant a thraddodiadau pobl y Sámi.

Meddai Dr Glenda Tinney, uwch-ddarlithydd Blynyddoedd Cynnar yn yr Athrofa: “Bu hwn yn gyfle gwych i gyfnewid syniadau ar wahanol ddulliau o ddatblygu a chefnogi ieithoedd lleiafrifol. Ystyrir yr ymweliad hwn fel dechrau partneriaeth hirdymor rhwng ein dwy Brifysgol ac rydym yn edrych ymlaen at gynllunio prosiectau gyda’n gilydd yn y dyfodol.”

9 Comments

  1. Pingback: slot gacor
  2. Pingback: aksara178
  3. Pingback: ทุบตึก
  4. Pingback: pilsakmens
  5. Pingback: hostel bangkok

Leave a Reply