Blog

Mae paratoi’r genhedlaeth nesaf o athrawon ystafell ddosbarth yn bwysig dros ben, ond dadl Elaine Sharpling yw bod gor-ddiogelu myfyrwyr ac esgeuluso heriau go iawn yn gallu rhwystro eu datblygiad. Cynigia Elaine, yn y blog craff hwn, ddewis arall i’r hyn a elwir ‘y genhedlaeth blu eira’ gan alw am ymagwedd fwy pragmatig at addysg athrawon…

 

Fel addysgwr athrawon, mae’n fraint ac yn bleser gennyf i weithio gydag amrywiaeth eang o athrawon dan hyfforddiant sydd newydd ddechrau ar eu gyrfaoedd ym myd addysg. Yn gyffredinol, mae’r myfyrwyr yn frwdfrydig, yn gryf eu cymhelliad ac am gyflawni eu gorau glas. Mae’r rhinweddau hyn yn rhai campus, ac yn rhai yr hoffem weld gan bob dysgwr ar draws system addysg soffistigedig.

Rwyf wedi bod yn adfyfyrio yn ddiweddar ar sut y mae’r rhinweddau hyn yn cael eu hamlygu mewn rhaglenni addysg athrawon, a sut mae pob un ohonom yn chwarae rhan wrth gyflawni’r deilliannau a rennir hyn.

Yn fwyfwy, caiff rhaglenni astudio prifysgolion eu hystyried yn atebol, a chaiff gwahanol fesurau eu rhoi mewn lle er mwyn penderfynu a ydynt yn ateb y gofyn neu beidio. Mae’r Arolygon Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Fframweithiau Rhagoriaeth Addysgu a data cyrchfannau, pob un ohonynt, yn enghreifftiau o’r ffyrdd y caiff llais y myfyriwr ei glywed, ond yn fwy pwysig, ei gredu a’i barchu.

Wrth gwrs, y mae hyn yn bwysig, ac ni fyddai neb yn dadlau y dylem ganiatáu rhaglenni gradd drud neu rai sy’n cael eu cyflwyno’n wael i redeg, ac wrth wneud hynny, cynnig gobaith gwag i fyfyrwyr o ran cyfleoedd gwaith a dilyniant gyrfa. Dylid gwerthfawrogi bod yn atebol i’r cyhoedd a thryloywder, ac mae angen gwybodaeth gadarn ar fyfyrwyr os ydynt am wneud dewisiadau deallus.

Er hynny, pe bai’r myfyriwr a’r tiwtor yn y brifysgol yn rhannu’r un uchelgeisiau, sef y rhinweddau o fod yn frwdfrydig tuag at ddysgu, yn gryf eu cymhelliad ac yn ymdrechu i gyflawni’r gorau, yna y mae lle i’r ddau lais gael eu clywed.

Mae’r ‘The Coddling of the American Mind: How Good Intentions and Bad Ideas are Setting Up a Generation for Failure’, a ysgrifennwyd gan Greg Lukianoff a Jonathan Haidt, yn ddadansoddiad o sut y gallai fod bwriadau da ym myd addysg prifysgolion wedi arwain yn anfwriadol at or-ddiogelu myfyrwyr ac felly rhwystro eu datblygiad. Rwy’n cefnogi’r farn bod ceisio i greu cynwysoldeb drwy amddiffyn myfyrwyr rhag effaith geiriau, syniadau a ffordd o feddwl a allai achosi anghysur emosiynol arwain at ‘genhedlaeth nad yw wedi’i pharatoi’n ddigonol, naill ai’n ddeallusol nac yn emosiynol, ar gyfer byd cynyddol ddyrys a chymhleth’ (Rabi Arglwydd Jonathan Sacks).

Mae eraill yn disgrifio hwn fel  nodweddion y ‘genhedlaeth blu eira’, un lle caiff pobl ifanc eu gor-ddiogelu, lle maent yn dangos llai hydwythdedd ac maent yn fwy tebygol na’u rhagflaenyddion o ddigio.

Pe baem yn disgrifio hyn naill ai fel maldodi meddyliau neu blu eira, bydd goblygiadau hirdymor i’n system addysg gyfan os bydd myfyrwyr yn methu cofleidio’r byd sydd ohoni (gyda’i syniadau cymhleth a chystadleuol) gan orfodi newid er mwyn osgoi heriau ac er mwyn cyflawni eu hanghenion unigol. A dweud y gwir, sut gwnaiff athrawon dan hyfforddiant fynd i’r afael ag amcan y cwricwlwm newydd i greu dysgwyr uchelgeisiol a galluog os nad ydynt yn hoff o gymryd risg ac os ydynt yn addysgu o sefyllfa gyfforddus?

Mae fy mhrofiad innau fel tiwtor mewn prifysgol wedi gweld y math hwn o ‘faldodi’ yn dechrau ymddangos o fewn rhaglenni prifysgolion, er iddo ddigwydd oherwydd bwriadau da a theilwng.

Yn ddiweddar iawn, mae wedi ymddangos fel cynnydd yn nifer y cynigion diamod ac fel gostyngiad canfyddedig  yn safonau’r gofynion mynediad – ac mae’r weithred hon hefyd yn cael effaith anfwriadol drwy ddiysgogi myfyrwyr a fyddai’n flaenorol wedi ymdrechu i ennill graddau mynediad da.

Ein nod ym myd addysg athrawon yw codi’r bar o ran mynediad ac felly rhoi rhyw arwydd bod ein system addysg yn haeddu cael ei gwerthfawrogi. Er hynny, nid ydym yn rhydd o rai elfennau maldodi ac mae angen i ni ailffocysu ein nerthoedd wrth baratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn addysgwyr cenedlaethau’r dyfodol. Credaf, yn enwedig, fod yna risg i ddatblygiad meddwl yn feirniadol, rhywbeth a ddylai fod wrth galon addysg mewn prifysgol ac yn sail i’r proffesiwn addysgu.

Mae Lukianoff a Haidt yn awgrymu bod caniatáu’r myfyrwyr  i fabwysiadu’r safiad o ‘ymddiried bob amser yn eich teimladau’ yn un ffordd y gellid rhwystro datblygiad meddwl yn feirniadol. Mae’r elfen faldodi benodol hon yn dibynnu ar ymresymu emosiynol ac mae’n rhoi lle i’r myfyriwr greu sgemâu gwyrgam ynglŷn â syniadau a thasgau. Wrth addysgu, gall hwn gael ei drosglwyddo i’r disgyblion, er enghraifft ‘Nid yw fy Mathemateg i yn dda’ neu ‘Rwyt ti’n llawer gwell na fi yn arlunio’.

Os ydy meddwl yn feirniadol yn ymrwymiad i hysbysu eich syniadau gan ddefnyddio tystiolaeth ddibynadwy, ac i gydnabod efallai y bydd rhaid i’r sefyllfa hon newid ar dderbyn tystiolaeth wahanol, yna, y mae buddsoddi mewn teimladau yn hollol annibynadwy ac yn anfeirniadol. Yn ogystal â hyn, y mae dibynnu ar deimladau yn rhwystr i ymddygiad ysgolheigaidd ac mae ganddo’r potensial i rwystro cynnydd ym maes addysg drwy ddibynnu ar feddwl mewn ffordd gul.

Un elfen o ymddygiad a allai gyfrannu at y dibynnu ar deimladau hwn yw’r tueddiad cynyddol o drychinebu – a gall hyn gynnwys canolbwyntio ar y canlyniad gwaethaf posibl  e.e. “Rwyf yn mynd i fethu beth bynnag’ a thrwy or-ddramateiddio digwyddiad penodol e.e. ‘Nid oes gan y llyfrgell unrhyw lyfrau,’ pan fo athro dan hyfforddiant wedi ymdrechu i ddod o hyd i erthygl benodol neu destun.

Hyd yn oed ar ei orau, gall trychinebu arwain at diwtor yn y brifysgol, neu’r mentor ysgol-seiliedig yn cael ei ymglymu gan y broses hir o ddiffiwsio ymateb emosiynol, naill ai gyda myfyrwyr unigol neu gyda charfan o fyfyrwyr. Dim ond ar ôl llwyddo adfer cydbwysedd mwy gwrthrychol gall unrhyw ymgysylltu â meddwl yn feirniadol hyd yn oed ddechrau.

Ar ei waethaf, gall pwysau atebolrwydd, yn enwedig oherwydd yr arolygon allanol, arwain  at drychinebu dwyochrog ar ran y tiwtor yn y brifysgol sydd hefyd mewn perygl o ymateb yn emosiynol. Mae’r pryder o dderbyn adborth negyddol drwy amrywiol allfeydd Llais y Myfyriwr yn real iawn a gall roi bywoliaethau yn y fantol. Rywbryd, bydd rhaid i rywun gasglu’r dystiolaeth a lleddfu’r ystumiad er mwyn adfer y cydbwysedd.

Mae dysgu sut i fod yn athro yn gymhleth. Nid yw’r plant sy’n cael eu casglu’n artiffisial i mewn i ystafell ddosbarth yn grŵp homogenaidd ond yn unigolion hynod sydd yn wastad yn newid. Bydd angen cyfarparu athrawon dan hyfforddiant os ydynt am lwyddo yn yr amgylchedd hwn drwy sicrhau bod ganddynt sgiliau meddwl yn feirniadol wrth flaenau eu bysedd a’u bod nhw’n ymwybodol o’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag ymateb yn emosiynol.

Ceir wrth galon datblygu sgiliau beirniadol yr angen i ymgysylltu â, a chael eich hysbysu gan ymchwil – nid mewn hen dŵr llychlyd gyda llyfrau o’ch cwmpas ond yn yr ystafell ddosbarth, ar safle’r ymarfer. Mae angen addysgu’n eglur mewn rhaglenni addysg athrawon y sgiliau ymarferol o fod yn foesegol, yn amheugar, yn ymchwilydd medrus, a bod yn rhan o broffesiwn holgar (Orchard a Winch 2015). Awgrymaf fod hyn yn wrthwenwyn cryf os am wrthsefyll y risg o faldodi.

Y sgiliau hyn yw amddiffyniad athrawon dan hyfforddiant a’u tocyn i dyfu – mae’n hollol bosibl i gael eich herio, i oroesi ac oherwydd hynny, i ddatblygu safbwynt gwahanol sy’n arwain at ddilyniant.

Hefyd, mae lansiad y cwricwlwm newydd, sydd ar ddigwydd, ac sydd wedi’i seilio ar egwyddorion arweiniol cyfrifolaeth, yn golygu bod angen i’r proffesiwn addysgu cyfan symud o gyflwyno cwricwlwm parod a throi yn ddylunwyr cwricwlwm. Bydd rhaid trafod dogfennau cwricwlwm lefel uchel, a’u dadlau a’u dehongli yn feirniadol er mwyn cyrraedd at bersbectif unigryw ar gyfer pob lleoliad ysgol.

Bydd angen dod â holl briodoleddau meddwl yn feirniadol i’r blaen ar hwn. Os ydy athrawon y dyfodol am gael doethineb ymarferol (pan fydd gwybodaeth ddeallusol a gwybodaeth drwy brofiad yn cwrdd yn yr ystafell ddosbarth) yna, bydd rhaid i’r termau ‘tystiolaeth ymchwil’, ‘a hysbysir gan ymchwil’ a ‘tystiolaeth broffesiynol’ fod yn rhan o’r eirfa addysgu newydd.

Ac felly, mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn y tirlun newid addysg chwyldroadol hwn, ac rwy’n hollol argyhoeddedig pe baem yn canolbwyntio o’r newydd ar ddatblygu meddwl yn feirniadol, na chaiff ein hathrawon dan hyfforddiant eu maldodi, ac ni fyddant yn blu eira chwaith. Yr arloeswyr holgar sy’n ymateb i her ac sy’n dysgu’n gyson yw’r rhai a fydd yn gwneud yr holl wahaniaeth mewn byd ar ôl Donaldson.

  • Elaine Sharpling yw Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon, Yr Athrofa: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Leave a Reply