Cafodd ymchwil sy’n hysbysu datblygiad fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu proffesiynol y gweithlu addysg ei gyhoeddi heddiw gan Yr Athrofa.
Comisiynwyd haf diwethaf dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gynnal cyfres o ‘adolygiadau cyflym’ er mwyn cefnogi’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr Ymagwedd Genedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol sy’n datblygu.
Rhoddwyd cytundeb i’r Athrofa ymgymryd â thri o’r 11 o brosiectau arwahanol a gafodd eu cynllunio gan Lywodraeth Cymru a’u gweithredu gan sefydliadau haen ganol.
Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys:
- Adroddiad ymchwil ar gyd-destun strategol dysgu proffesiynol yng Nghymru
- Adroddiad ymchwil ar rwydweithiau cydweithredol dysgu proffesiynol yng Nghymru (adolygiad o’r llenyddiaeth)
- Adroddiad ymchwil ar rwydweithiau cydweithredol dysgu proffesiynol yng Nghymru (grwpiau ffocws)
Cynorthwywyd Yr Athrofa gan bedwar consortiwm addysg rhanbarthol Cymru (sef CSC, ERW, GCA a GwE) a gyfrannodd at bob adroddiad ac at y posteri ymchwil cysylltiol, sydd ar gael yma:
- Cyd-destun strategol
- Rhwydweithiau cydweithredol (adolygiad o’r llenyddiaeth)
- Rhwydweithiau cydweithredol (grwpiau ffocws)
Mae’r adroddiadau hyn yn cyflwyno nifer o gasgliadau sy’n ymwneud â dysgu proffesiynol y gweithlu addysg, gan awgrymu cyfres o argymhellion allweddol a gynlluniwyd i gyfoethogi’r ddarpariaeth wrth i Gymru droi at ffyrdd newydd o weithio.
Mae cyfarwyddyd ynglŷn ag Ymagwedd Genedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol Cymru ar fin gael ei gyhoeddi yn unol â’r cwricwlwm drafft newydd i Gymru, a fydd ar gael i roi sylwadau arno o Ebrill 30.
Meddai Gareth Evans, a wnaeth arwain rhan Yr Athrofa yn y prosiect: “Bydd yr Ymagwedd Genedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol yn hanfodol i lwyddiant agenda diwygio uchelgeisiol Cymru.
“Mae ein hadroddiadau yn amlygu’r pwysigrwydd o gael strwythur cydlynol, gyda disgwyliadau clir a’r hawl, y cytunwyd arno ar bob lefel o’r system addysg, i gynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu eu harfer yn gyson ar draws Cymru.
“Gwnaiff cyflwyno fframwaith ymatebol sy’n gweithio’n iawn nid yn unig fod o wasanaeth i’r sawl sy’n ymarfer ar hyn o bryd, ond hefyd codi statws addysgu fel proffesiwn sy’n hyblyg, yn arloesol ac sy’n atffurfio yn gyson er pennaf les dysgwyr.
“Edrychwn ymlaen at gyfoethogi ein cefnogaeth i’r gweithlu addysg yng Nghymru wrth i’r Ymagwedd Genedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol newydd gyflymu.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Ymagwedd Genedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol yma.