Cynhelir cynhadledd hanner diwrnod am ddim gan Yr Athrofa mis nesaf, ar gampws newydd glannau’r afon, sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb mewn ysgolion.
Wedi’i anelu at arweinwyr addysgol, consortia rhanbarthol a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn cefnogi cydraddoldeb mewn cyd-destunau ysgol, bydd y digwyddiad yn archwilio themâu allweddol sy’n gysylltiedig â hyrwyddo tegwch addysgol.
Mae cyfres o brif siaradwyr gwadd yn cynnwys yr Athro David Woods CBE, ymgynghorydd i raglen hynod lwyddiannus ‘London Challenge’, a Jane Houston, cynghorydd polisi Comisiynydd Plant Cymru.
Cynhelir y digwyddiad ‘Cefnogi Cyfle mewn Ysgolion: Hyrwyddo Cydraddoldeb Addysgol’ ar Fehefin 18 yn adeilad IQ campws newydd Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn SA1.
Bydd yn dangos enghreifftiau o sut mae ysgolion wedi datblygu rhagoriaeth a thegwch yn eu hymarfer a rhannu amrywiaeth o offer digidol cyffrous ac arloesol y gall ysgolion eu defnyddio i ddatblygu a gwella cydraddoldeb yn eu hysgol, a ddatblygwyd fel rhan o brosiect cydweithredol rhyngwladol rhwng arolygiaethau, prifysgolion ac ysgolion mewn pum gwlad.
Bydd pob cynrychiolydd yn cael mynediad i raglen hunanwerthuso cydraddoldeb digidol, a fydd yn galluogi arweinwyr ysgolion i gynhyrchu adroddiad pwrpasol ar amodau cydraddoldeb eu hysgol.
Dywedodd Sarah Stewart, trefnydd y gynhadledd: “Mae sicrhau bod plant Cymru yn cael pob cyfle i lwyddo mewn system addysg deg a chyfiawn o’r pwys mwyaf i Genhadaeth Genedlaethol Addysg Cymru, gan geisio tyfu system o ysgolion cynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a lles.”
Mae cofrestru ar Fehefin 18 yn agor am 9yb, gyda lluniaeth a chinio ysgafn yn cael eu darparu. I sicrhau lle yn y digwyddiad, ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/supporting-opportunity-in-schools-promoting-educational-equity-tickets-58702975179 neu am fanylion pellach cysylltwch â s.stewart@uwtsd.ac.uk