Gwahoddwyd un o ffigurau mwyaf blaenllaw byd addysg Cymru i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon.
Rhoddwyd anerchiad gan yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr addysg ac awdur adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ Llywodraeth Cymru, i gynulleidfa o dros 600 o athrawon cyfredol, yn ogystal ag athrawon y dyfodol, yn Yr Athrofa, Athrofa Addysg y Drindod Dewi Sant. Yr Athro Donaldson oedd y prif siaradwr yng nghynhadledd ‘Anelu at Ragoriaeth’ Yr Athrofa, dathliad blynyddol o’r proffesiwn addysgu a’r arfer ardderchog sy’n digwydd mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli gyda chyflwyniadau gan ddarlithwyr, staff ysgolion a llu o athrawon dan hyfforddiant talentog. Yn ystod ei brif anerchiad, esboniodd yr Athro Donaldson yn fanwl sut y byddai’r cwricwlwm yn cael ei weithredu, yn ogystal â’r goblygiadau wrth symud ymlaen. Meddai “mae’n amser gwych i gychwyn yn y proffesiwn yng Nghymru” ac “mae rhywbeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru sy’n gyffrous dros ben”.
Ym mis Mawrth 2014, comisiynwyd yr Athro Donaldson gan Lywodraeth Cymru i ystyried ac adolygu’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Mae’r adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a ddilynodd yn sgil hyn yn edrych ar y cwricwlwm presennol a geir yng Nghymru ac yn awgrymu llawer o gynigion radical ar gyfer newid. Cyhoeddwyd dogfennau cwricwlwm drafft ddiwedd mis diwethaf yn dilyn tair blynedd o gyd weithio gydag Ysgolion Arloesi. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan fis Gorffennaf.
Yn dilyn y gynhadledd, meddai’r Athro Donaldson: “Mae cynnal cynadleddau fel y gynhadledd hon, a drefnwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn hanfodol wrth i ni geisio ennyn diddordeb yr unigolion hynny a fydd wrth galon yr hyn y byddwn yn ceisio ei wneud a’i gyflawni yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a thu hwnt.
“Yr hyn a oedd yn amlwg yn y gynhadledd ‘Anelu at Ragoriaeth’ oedd y lefel o frwdfrydedd a phenderfyniad ymhlith ein hathrawon dan hyfforddiant i fynd â’n cynigion ymlaen a gwneud iddynt weithio ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. O’m safbwynt i, mae digwyddiadau fel digwyddiad heddiw yn gadarnhaol dros ben. Dyma’r cwricwlwm newydd yn cael ei lunio o flaen ein llygaid, a phopeth yr ydym wedi’i weld heddiw, megis y stondinau a chyflwyniadau gan yr athrawon a’r bobl ifanc – dyna yw gwir ystyr y diwygio cyfan yng Nghymru.”
Agorwyd y digwyddiad, a wnaeth arddangos gwaith nifer o ysgolion Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa (PDPA), gyda neges fideo arbennig i’r athrawon dan hyfforddiant gan Yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, a wnaeth siarad am y rôl hanfodol sydd ganddynt i’w chwarae wrth roi ffurf i fywydau pobl ifanc. Trefnir y gynhadledd ‘Anelu at Ragoriaeth’ yn flynyddol gan Yr Athrofa gyda’r bwriad o ddod â’r holl athrawon BA (Add.) Cynradd, a TAR Cynradd ac Uwchradd at ei gilydd er mwyn rhannu arfer da wrth iddynt baratoi ar gyfer gyrfa mewn addysgu.
Mae’r Athrofa – Yr Athrofa Addysg, yn glymblaid o arweinwyr addysg rhyngwladol sy’n gweithio tuag at drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau yng Nghymru. Wedi ei sefydlu gan y Drindod Dewi Sant, mae gan Yr Athrofa dair rhan – Partneriaeth Dysgu Proffesiynol; Canolfannau Ymchwil ac Arloesi, a Chomisiwn Addysg Cymru – sy’n adeiladu ar hanes clodwiw addysg athrawon yn Ne-orllewin Cymru.
Mae Siobhan Eleri yn ei hail flwyddyn ar hyn o bryd, yn astudio ar y rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Addysg ac yn un o’r siaradwyr yn y gynhadledd. Yn dilyn ei chyflwyniad, dywedodd: “Mae cynnal digwyddiad fel hwn yn hanfodol ac mae’n gyfle i ddathlu popeth sy’n wych am y sector.
“Mae’n bwysig ein bod yn cael y cyfle i ddod ynghyd a rhannu syniadau a chlywed pam mae addysgu yn yrfa wych a gwerthfawr, ac roedd llawer o’r cyflwyniadau yma heddiw yn wirioneddol ysbrydoledig. Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i siarad o’r llwyfan – roedd yn brofiad gwych. Hoffwn ddiolch i’r trefnwyr am drefnu digwyddiad mor wych.”
Ychwanegodd Mathew Jones o’r Athrofa, trefnydd y digwyddiad: “Rydym yn falch iawn bod yr Athro Donaldson wedi cymryd amser, er gwaethaf ei amserlen brysur, i ymuno â ni yn ein cynhadledd ‘Anelu at Ragoriaeth’ am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd ei gyfraniad yn wir ysbrydoledig a rhodd y gynhadledd gyfle unigryw i’n myfyrwyr rannu llwyfan gydag un o enwau blaenllaw byd addysg Cymru. Gwnaethant fanteisio ar y cyfle hwn yn frwdfrydig, gan arddangos eu cyflawniadau aruthrol a rhannu’r arfer rhagorol yr oeddent wedi bod wrthi’n ei ddatblygu gyda chydweithwyr mewn ysgolion.
“Roedd cael y cyfle i wrando ar yr Athro Donaldson yn siarad am ein cwricwlwm i’r dyfodol gyffroi ein myfyrwyr yn fawr, a gwn y bydd y profiad hwn o les mawr iddynt, wrth iddynt edrych ymlaen at gychwyn ar eu gyrfaoedd eu hunain yn y proffesiwn addysgu.
“Unwaith eto, roedd y gynhadledd yn eithriadol o lwyddiannus, gyda dros 600 o fyfyrwyr a chydweithwyr yn mynychu’r digwyddiad, a bron 2000 yn ei wylio ar ein ffrydio byw. Erbyn hyn, mae’r gynhadledd yn ei seithfed flwyddyn ac mae’n tyfu’n fwy ac yn well bob blwyddyn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad blwyddyn nesaf, am ein gobaith yw adeiladu’n bellach ar lwyddiant eleni.”