NewyddionKirsty Williams Speaking

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn i groesawu’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams i’r Athrofa yn y brifysgol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth.

Cafodd y Gweinidog Addysg gyfle i gyfarfod ag athrawon dan hyfforddiant ar gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin a chymerodd ran mewn sesiwn holi ac ateb fyw gyda myfyrwyr, staff a chydweithwyr mewn ysgolion.

Gan annerch y myfyrwyr, Dywedodd Kirsty Williams: “Rydych chi ar fin dechrau gyrfa mewn proffesiwn unigryw iawn. Rydym yng nghanol y diwygiadau addysg mwyaf yn unrhyw le yn y DU mewn hanner canrif. Wrth i chi feddwl am gychwyn eich hyfforddiant neu fynd at eich swydd gyntaf, gobeithiaf y byddwch chi’n manteisio’n llawn ar y cyfle a’r fraint hon.

Gyda’n gilydd rydym yn gyfrifol am sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf. Chi yw’r genhedlaeth newydd o athrawon, y gweithredwyr newid, sy’n newid bywydau ac yn gwneud gwahaniaeth.”

Cyflwynir gweledigaeth uchelgeisiol y brifysgol i rymuso athrawon a chefnogi ysgolion i ddatblygu’r gweithlu addysg drwy dri llinyn craidd yr Athrofa – Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA); Canolfannau Ymchwil ac Arloesi; a Chomisiwn Addysg Cymru – sy’n adeiladu ar hanes balch addysg athrawon yn ne-orllewin Cymru.

Cafodd y PDPA, a luniwyd ar sail parch cydradd a chyd-atebolrwydd, ei sefydlu gyda grŵp o 120 o ysgolion ledled Cymru ac mae wedi ail-ddiffinio’r modd y gellir darparu addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu proffesiynol.

Y canlyniad clir yw datblygu cwricwlwm AGA newydd, gyda’r brifysgol ac ysgolion partner yn gyfrifol ar y cyd am lunio a darparu’r holl raglenni hyfforddi.

Mae’n wyriad radical oddi wrth ddulliau addysg athrawon mwy traddodiadol ac mae’n dilyn cyfarwyddyd clir gan Ms Williams bod angen i system AGA Cymru newid.

Meddai’r Athro Jones: “Roedd yn bleser mawr gennym ni groesawu’r Gweinidog I Gaerfyrddin, a gadawodd ei chyflwyniad ysbrydolgar y rheini oedd yn bresennol heb unrhyw amheuaeth ynghylch ei hymrwymiad i athrawon wrth eu gwaith ac athrawon y dyfodol.

“Nod yr ymweliad oedd hysbysu, ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd ein myfyrwyr addysg athrawon cychwynnol am ein cwricwlwm newydd a oedd yn cynnwys diweddariadau ar y dysgu proffesiynol a’r weledigaeth ar gyfer addysg. Roedd hwn yn gyfle unigryw i fyfyrwyr glywed yn uniongyrchol gan y Gweinidog a gofyn cwestiynau am y cwricwlwm ac addysgu newydd.

“Ceir potensial aruthrol yn system addysg Cymru ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i ysgogi newid cadarnhaol a grymuso ysgolion er lles yr holl ddysgwyr.

“Mae’r PDPA wedi ymateb yn gadarnhaol i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ac AGA, gydag ysgolion wrthi’n cynllunio cwrs newydd a chyffrous ar gyfer athrawon y presennol a’r dyfodol.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am gymryd amser o’u hamserlen brysur i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth gyda negeseuon cadarn a chadarnhaol o gyfle a chefnogaeth.”

Leave a Reply