Mae Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi symud ymhellach i fyny tabl cynghrair uchel ei barch.
Mae’r Guardian University Guide wedi gosod yr Athrofa yn safle 43 yn y DU – sef codiad o saith safle ers cyhoeddi tabl cynghrair 2018.
Yn fuan ar ôl ei lansio yn 2016 gosodwyd yr Athrofa yn safle 76 yn y DU.
Mae’r safle yn y tabl cynghrair yn cynnwys rhaglenni dan ofal y disgyblaethau Blynyddoedd Cynnar, Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol ac Addysg Athrawon o fewn yr Athrofa.
Mae llwyddiant yr Athrofa yn cyd-fynd â llwyddiant y brifysgol ei hun, gyda’r Drindod Dewi Sant yn codi 29 safle – sef y trydydd codiad uchaf ar y cyd ymhlith y 121 o brifysgolion y DU sydd wedi’u cynnwys yn y tabl.
Bellach mae’r Drindod Dewi Sant yn safle 57 yn gyffredinol yn y Guardian University Guide.
Meddai’r Athro Dylan Jones, Deon Yr Athrofa: “Mae’r Athrofa ar daith ac mae’r canlyniad hwn yn cadarnhau ein cred gadarn ein bod yn symud i’r cyfeiriad iawn.
“Mae ein staff ymroddedig a’n cydweithwyr arloesol mewn ysgolion partner yn canolbwyntio’n gadarn ar godi safonau i bawb yng Nghymru ac mae’r canlyniadau hyn yn arwydd sylweddol o hyder yn y gwaith rydym ni’n ei wneud gyda’n gilydd.
“Mae Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa a achredwyd yn ddiweddar yn mynd o nerth i nerth, ac mae’r cyfleoedd a gyflwynir gan ein cydweithredu ar draws y system yn destun cyffro i ni.
“Rydym ni wrth ein boddau bod ein gwaith caled wedi cael ei gydnabod yn y Guardian University Guide, ond mae angen gwneud llawer mwy er mwyn cyflawni ein nodau cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru.
“Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy’n gweithio gyda ni am eu cefnogaeth barhaus – ac edrychwn ymlaen at gryfhau ein perthnasoedd yn y blynyddoedd i ddod.”
Yr Athrofa yw darparwr mwyaf addysg athrawon yng Nghymru ac mae’n chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru a’r ddarpariaeth dysgu proffesiynol, fel rhan o gyfres o brosiectau sy’n parhau gyda Llywodraeth Cymru.