NewyddionGroup of women

Yn ddiweddar fe wnaeth Pop Up Projects, ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyflwyno cyfres o weithdai i athrawon ac awduron er mwyn iddynt archwilio, ymgysylltu ac arbrofi gyda ffyrdd newydd o ddod â llyfrau yn fyw.

Cynhadledd undydd oedd Pop Up Lab a gynhaliwyd yng ngwesty’r Village yn Abertawe. Drwy rannu ymarfer da a fydd, bu’n gynhadledd a alluogodd gyfranogwyr i ddarganfod ffyrdd newydd a dychmygus o feithrin ymdeimlad o gariad tuag at ddarllen ac ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth.

Fe wbnaeth y gynhadledd Pop Up Lab ganolbwyntio ar greadigrwydd trawsgwricwlaidd trwy lenyddiaeth plant yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r arfer a rennir gan awduron ac athrawon eisoes wedi cael ei brofi yn ystod Gŵyl Pop Up, sef gŵyl lenyddiaeth genedlaethol i blant sy’n dod â llyfrau’n fyw mewn ysgolion ledled y DU, gan gynnwys yn ardaloedd  Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot dros y tair blynedd ddiwethaf, gyda chefnogaeth y Paul Hamlyn Foundation.  Yr ysgolion a fu’n cymryd rhan oedd:

  • Ysgol Gynradd Gwyrosydd, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Awel y Môr, Port Talbot
  • Ysgol Cynradd Coedffranc, Castell Nedd
  • Ysgol Cynradd Trallwn, Abertawe
  • Ysgol Gymradd Gymraeg Tirdeunaw, Abertawe

Cyflwynwyd Pop Up Lab ar y cyd ag Athrofa Addysg y Brifysgol sydd wedi bod yn gwerthuso gwaith Pop Up yng Nghymru.

Dywedodd Dr Alex Southern, o’r Athrofa: “Bu’r Pop Up Lab yn gyfle cyffrous i addysgwyr ac ymarferwyr creadigol rannu syniadau ar gyfer ysbrydoli cariad at ddarllen ac ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth, sydd hefyd yn llawn dop o weithgareddau ymarferol. Roedd Yr Athrofa yn falch iawn o weithio gyda Pop Up i gefnogi’r digwyddiad. Roedd hi’n wych clywed gan athrawon ac ysgrifenwyr ysbrydoledig, a gobeithio y bydd y creadigrwydd yn parhau i ffynnu mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.”

Bwriad y gweithdai oedd helpu cyfranogwyr i ddysgu o brofiad athrawon o weithio gydag awduron yn yr ystafell ddosbarth ynghyd â datblygu syniadau newydd, ymarferol ar gyfer darllen, ysgrifennu a chreadigrwydd o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad sydd i’w lansio fel rhan o’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn 2022.

Cafodd y cyfranogwyr hefyd gyfle i wneud, darlunio, neu ysgrifennu’n greadigol eu hunain. Daeth y diwrnod i ben gyda phrif-araith – ‘A poet’s guide to not paying attention in class’ gan Jay Hulme – perfformiwr, siaradwr cyhoeddus, ac awdur nifer o gasgliadau barddoniaeth ar gyfer oedolion, plant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau.

Dywedodd Franziska Liebig, o Pop Up Projects: “Roedd yn wych medru rhannu dysgu ac arfer gorau sydd wedi deillio o awduron ac athrawon yn cydweithio’n ddychmygus mewn pump o ysgolion yn Ne Cymru dros dair blynedd, gan rymuso athrawon i ddysgu’n fwy creadigol a gwella sgiliau darllen ac ysgrifennu y disgyblion.

“Trwy ein gŵyl lenyddiaeth plant genedlaethol fe wnaethon ni alluogi 5,500 o ddisgyblion i gael profiad o 180 o weithdai creadigol ac i gwrdd ag awduron a oedd yn fodelau rôl ysgrifennu, gan hefyd ailgyflenwi llyfrgelloedd yr ysgolion gyda 1,750 o lyfrau. Diolch i’r Athrofa ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am eu cefnogaeth amhrisiadwy wrth wneud y Pop Up Lab hwn yn bosibl.”

I ddysgu mwy am Pop Up Projects, ewch i https://pop-up.org.uk/

Leave a Reply