Mae staff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i hysgolion partner wedi cyflwyno’u model arloesol o addysg athrawon mewn cynhadledd bwysig yn y DU.
Ymunodd Leanne Prevel o Ysgol Gynradd Wirfoddol Gelliswick, a Rhonwen Morris o Ysgol y Preseli ag Elaine Sharpling, cyfarwyddwr addysg athrawon yn y Brifysgol, yng Nghynhadledd Flynyddol Cyngor y Prifysgolion ar gyfer Addysg Athrawon (UCET) yn Stratford-upon-Avon.
Ymunodd cyn-gadeirydd a chadeirydd cyfredol Bwrdd Achredu AGA CGA, yr Athro John Furlong a Dr Hazel Hagger, â nhw hefyd.
Gyda’i gilydd, cyflwynodd y pump sesiwn ar y diwygiadau ym maes addysg athrawon sydd wedi digwydd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd rhaglenni a gynigiwyd gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol (PDPA) yr Athrofa, sef cydweithrediad sy’n cynnwys Athrofa Addysg y Drindod Dewi Sant a rhwydwaith o fwy na 100 o ysgolion, eu hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ym mis Mehefin 2018.
Rhoddwyd y rhaglenni newydd ar waith ym mis Medi 2019 ac fe’u lluniwyd gyda golwg ar ofynion y cwricwlwm cenedlaethol a’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd.
Meddai Ms Prevel: “Cafodd cydweithwyr o PDPA y fraint o gyflwyno ar daith ddiwygio Cymru gyda’r Athro Furlong a Dr Hagger yng nghynhadledd UCET yr wythnos hon.
“Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r cyflwyniad ac agorodd drafodaethau ar y newidiadau cyffrous, dewr sy’n digwydd yng Nghymru ar ei thaith ddiwygio radical.”
Yn natblygiad PDPA, gwelir dull newydd ac arloesol o ddarparu addysg athrawon, a’r Athrofa a’r ysgolion sy’n bartneriaid iddi yn gyfrifol ar y cyd am greu a darparu’r holl raglenni AGA.
Wrth wraidd model AGA PDPA mae’r ddealltwriaeth bod ysgolion a phrifysgolion yn bartneriaid cyfartal, gyda rhan annatod i’w chwarae yn natblygiad addysg athrawon, llywodraethu’r bartneriaeth a’r prosesau sydd eu hangen ar gyfer sicrhau ansawdd trwyadl.
Meddai Mrs Sharpling: “Mae’r ffaith bod cydweithwyr o PDPA wedi derbyn cais i gyflwyno gweledigaeth Cymru ar gyfer addysg athrawon yn glod arwyddocaol i’r gwaith rydym yn ei wneud.
“Mae PDPA yn gwneud popeth mewn partneriaeth ac roedd yn ardderchog cyflwyno gyda chydweithwyr o ysgolion partner mewn cynhadledd sydd mor bwysig i addysgwyr athrawon.
“Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn yr hyn rydym wedi ei greu gydag ysgolion ac yn hyderus y bydd ein dull newydd o addysg athrawon yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar y genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth er mwyn gallu ysbrydoli cariad at ddysgu a chreadigrwydd.”
Ystyrir bod Cynhadledd Flynyddol UCET yn un o’r prif ddigwyddiadau yn y calendr addysg athrawon, ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o weithdai oedd yn berthnasol i addysg athrawon ac i ymchwil addysg yn y DU ac yn rhyngwladol.