NewyddionSplash

Mae’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i gosod yn y safle cyntaf yng Nghymru am nifer o feysydd pynciol allweddol.

Y Brifysgol oedd y sefydliad uchaf yng Nghymru am addysg, hanes a gwyddor fforensig ac archaeoleg yn y Guardian University Guide nodedig.  

Yn gyffredinol, gosodwyd y Drindod Dewi Sant yn safle 15 yn y DU am addysg, gan barhau ar ei thaith i fyny o safle 43 yn 2020 a safle 50 yn 2019.

Roedd y brifysgol yn safle 11 yn y DU am hanes, a safle 16 yn y DU am wyddor fforensig ac archaeoleg.

Roedd cynnydd arwyddocaol hefyd ar gyfer seicoleg, a roddwyd yn safle 67 yn y DU, i fyny o safle 81 y llynedd.

Cododd y brifysgol ei hun i safle 56 yn nhabl 2021 o blith y 121 o brifysgolion yn y DU a gynhwyswyd ynddo.

Mae’r Guardian yn gosod prifysgolion yn eu safleoedd yn ôl naw mesur gwahanol: gan gynnwys pa mor fodlon mae myfyrwyr y flwyddyn olaf ar eu cyrsiau, yr addysgu a’r adborth, gwario fesul myfyriwr; y gymhareb myfyrwyr/staff; rhagolygon graddedigion o ran gyrfa; y graddau sydd eu hangen ar ymgeiswyr i gael lle; sgôr gwerth ychwanegol sy’n cymharu cymwysterau mynediad y myfyrwyr â’u canlyniadau gradd terfynol.

Mae canlyniadau’r Guardian University Guide yn atgyfnerthu canlyniadau Gwobrau Student Choice Whatuni, lle enillodd y Drindod Dewi Sant y brif wobr yn y categori ‘Cyrsiau a Darlithwyr’ am yr ail flwyddyn yn olynol.

Meddai Dr Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor sydd â goruchwyliaeth am yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser mawr gennym fod gwaith caled yr Athrofa wedi’i gydnabod yn un o dablau cynghrair uchaf ei barch yn y DU.

“Rydym ni’n ddiolchgar i’n tîm o staff talentog ac ymrwymedig, sydd wedi parhau i gefnogi myfyrwyr yn ddiwyd ac â gofal mawr yn ystod cyfnod heriol dros ben i bawb.

“Mae’r ffaith bod cynifer o’n meysydd pynciol wedi cael eu cydnabod fel y gorau yn y wlad yn wobr deg am ymdrech ar y cyd a oedd yn cynnwys nifer o bartneriaid ar draws y sector cyhoeddus.

“Nid ydym yn hunanfodlon ac mae digon i’w wneud o hyd i wireddu Cenhadaeth gyffredin ein Cenedl dros addysg yng Nghymru, ond mae’r tablau cynghrair hyn yn arwydd clir ein bod yn symud yn gadarn i’r cyfeiriad cywir.”

Mae’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau yn cyfuno’r disgyblaethau addysg, seicoleg, polisi cymdeithasol, ieuenctid a chymuned a’r Dyniaethau.

Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn un o brif ddarparwyr Addysg Athrawon yng Nghymru, a gyflwynir drwy Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA).

Mae PDPA yn gydweithrediad unigryw sy’n cynnwys addysgwyr athrawon y Drindod Dewi Sant a mwy na 100 o ysgolion o bob rhan o dde Cymru.

Leave a Reply