NewyddionPens

Cyhoeddwyd adroddiad sy’n tynnu sylw at y manteision a’r heriau sy’n deillio o wythnosau ysgol anghymesur gan Yr Athrofa: Canolfan Addysg (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant).

Mae Gwerth wythnosau ysgol anghymesur: Gwersi a ddysgwyd o ysgolion yng Nghymru yn adeiladu ar agenda diwygio addysg uchelgeisiol y genedl, ac yn cynnig myfyrdodau unigryw ar ddau ddull arloesol o strwythuro’r wythnos ysgol.

Wedi’i ysbrydoli gan sefydlu comisiwn cenedlaethol newydd i ‘ail-ddychmygu addysg’, mae’r adroddiad yn ystyried effaith trefniadau anghymesur ar ddwy ysgol – Ysgol Gyfun Treorci, yn Rhondda Cynon Taf, ac Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn Sir Benfro – gyda’r bwriad o ddeall yn well yr heriau a’r cyfleoedd posibl.

Fel arfer yn gyfuniad o ddyddiau hwy a byrrach, mae’r wythnos ysgol anghymesur yn caniatáu i ysgolion dorri i ffwrdd oddi wrth amserlenni sefydledig a newid yn sylfaenol y ffordd y maent yn gweithredu ar gyfer y staff a‘r disgyblion.

Mae’r papur yn rhoi sylw arbennig i effaith bosibl trefniadau anghymesur ar iechyd meddwl a lles athrawon, yn ogystal â’r amodau sy’n ffafriol i ffyrdd amgen o weithio.

Mae’n ystyried barn disgyblion a rhieni, yn ogystal â barn staff, ac yn dod i gyfres o gasgliadau sy’n seiliedig ar sylwadau aelodau allweddol o gymuned yr ysgol. Mae’n nodi manteision pendant i ddysgu proffesiynol athrawon, cydbwysedd bywyd-gwaith addysgwyr a mwy o gyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol â theulu a ffrindiau.

Awdur yr astudiaeth yw Gareth Evans, cyfarwyddwr Canolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CEPRA) yn yr Athrofa. Meddai: “Mae’r adroddiad yn gallu cynnig ‘gwersi a ddysgwyd’ yn y ddwy ysgol yn unig oherwydd gonestrwydd, uniondeb a pharodrwydd arweinwyr yr ysgolion hyn i gymryd rhan lawn yn y broses ymchwil. Diolch o galon, felly, i Michele Thomas a Rhys Angell Jones am eu cefnogaeth, yn enwedig ar adeg y mae pawb yn gwybod ei bod hi’n heriol iawn i addysgwyr ledled Cymru a’r byd ehangach.

“Yn fras, mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn y papur hwn yn rhoi darlun cymysg o effaith yr wythnos anghymesur, ac mae’n bwysig bod unrhyw ysgol sy’n ystyried y newidiadau hyn yn cydbwyso’n ofalus gostau a manteision gwneud hynny. Mae cyfraniadau pawb oedd yn rhan o’r astudiaeth yn ein hatgoffa ni na fydd yr wythnos anghymesur yn gweithio i bawb, ac nad yw’r hyn sy’n gweithio mewn un ysgol yn sicr o weithio mewn un arall.

“Yr hyn y mae’r wythnos anghymesur yn ei gynnig i bob ysgol, fodd bynnag, yw cyfle i ailystyried dulliau presennol a mwy traddodiadol o strwythuro addysg a manteision creu cyfleoedd dysgu proffesiynol ychwanegol i’r staff, yn enwedig yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru.”

Mae gan ganfyddiadau’r adroddiad nifer o oblygiadau i ysgolion sy’n ceisio mabwysiadu wythnos anghymesur, a chynigir cyfres o argymhellion lefel uchel i’r rhai sy’n archwilio trefniadau anghymesur.

Meddai’r Athro Mick Waters, cynghorydd  allanol i Lywodraeth Cymru a chadeirydd ei phanel arbenigol ar ail-ddychmygu addysg yng Nghymru: “Os ydyn ni’n mynd i ail-ddychmygu addysg, mae’n bwysig ein bod ni’n mynd ati mewn modd disgybledig.

“Mae’n rhaid ystyried a dadansoddi pob cam wrth symud ymlaen o system ysgolion sydd wedi bod ar waith ers cyhyd fel bod manteision a phroblemau’n cael eu hystyried yn briodol. Mae ymchwil o’r fath hon yn gyfraniad anhepgor. Mae’n cynnig cipolwg ar yr hyn sydd wedi’i geisio yn ogystal â bwrw goleuni ar bosibiliadau.”

Ariannwyd y papur ymchwil hwn yn rhannol gan Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Gellir gweld yr adroddiad yn llawn yma