Newyddion

Mae prosiect ymchwil cydweithredol sy’n cynnwys yr Athrofa: Canolfan Addysg ac ysgolion partner yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o gymhwysedd a dinasyddiaeth fyd-eang ledled Ewrop.

Mae Think Global, prosiect Erasmus a gynlluniwyd i feithrin cymhwysedd byd-eang mewn ysgolion, yn dod â saith sefydliad at ei gilydd, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a phrifysgolion, o Gatalwnia, Gwlad Belg a Chymru.

Y nod yw archwilio addysgeg a gweithgareddau i gefnogi sgiliau, gwybodaeth a thueddiadau cymhwysedd byd-eang ar lawr dosbarth, sy’n defnyddio fframwaith Cymhwysedd Byd-eang PISA a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r OECD.

Mae iddo gynulleidfa darged amrywiol ac mae’n cynnwys nodau a dyheadau ar gyfer pob lefel o’n systemau addysg.

Yn fwy penodol, y gobaith yw y bydd y prosiect yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o gymhwysedd byd-eang drwy weithgareddau cyfnewid byrdymor; bydd athrawon yn datblygu ac yn lledaenu arferion da; bydd ymchwilwyr prifysgol yn rhoi cyngor ar ddysgu proffesiynol; a bydd awdurdodau addysgol yn gwella eu polisïau ar gymhwysedd byd-eang.

I gefnogi’r gweithgaredd hwn, mae staff o’r Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol Barcelona wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau ystafell ddosbarth a fframwaith damcaniaethol i adeiladu arno.

Mae’r Fframwaith Damcaniaethol Think Global yn penderfynu, er mwyn cefnogi dysgwyr i fod yn gymwys yn fyd-eang, bod angen i athrawon greu diwylliannau ystafell ddosbarth diogel lle gall dysgwyr eu mynegi eu hunain, dyfalu, cwestiynu a thrafod yn barchus.

Yn y diwylliant hwn, mae’r athro’n gweithredu’n hwylusydd, gan gynnig her a chefnogaeth, wrth fodelu gwerthoedd cymhwysedd byd-eang, megis cydraddoldeb, parch, urddas ac amrywiaeth.

Roedd Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe, ac Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Sir Benfro, ymhlith yr ysgolion a wahoddwyd i lunio astudiaethau achos i helpu i fodelu rhywfaint o’r gwaith hwn yn ymarferol.

Meddai’r uwch ddarlithydd yn yr Athrofa ac arweinydd prosiect Y Drindod Dewi Sant, Gail Parker: “Drwy’r prosiect rwyf wedi ymgysylltu ag ysgolion yng Nghymru, Gwlad Belg a Chatalwnia; gan weld â’m llygaid fy hun sut mae plant yn dysgu am gymhwysedd byd-eang ac yn datblygu eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig yn y byd, ar raddfa leol a byd-eang.

“Yr un yw’r nodau hyd yn oed os yw’r wlad neu’r iaith yn wahanol – rydym yn addysgu ein plant i edrych y tu hwnt i’w cymuned leol i wneud penderfyniadau am y byd o’u cwmpas, gan werthfawrogi’r hyn sy’n bwysig yn y cyd-destun byd-eang. Mae’r prosiect wedi creu adnoddau y gall pob ysgol fanteisio arnyn nhw ac wrth wneud hynny mae’n dod â dysgwyr at ei gilydd i frwydro am ddyfodol gwell.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld partneriaid yma yng Nghymru yn ddiweddarach eleni i drafod deunyddiau hyfforddi a chynhadledd luosogi Abertawe sydd i ddod a fydd yn dathlu cymhwysedd byd-eang a’r camau y mae ein plant yn eu cymryd i greu dyfodol mwy disglair.”

Cynhelir cyfarfod partner trawswladol yn Y Drindod Dewi Sant ym mis Hydref 2021, cyn cynhadledd luosogi ym mis Mai 2022.

Bydd y prosiect yn parhau i greu deunyddiau hyfforddi nes iddo gau ddiwedd 2022. Caiff diweddariadau a chylchlythyrau rheolaidd eu dosbarthu i gydweithwyr ledled Ewrop, yn unol â nodau’r prosiect.