Mae Cymru yng nghanol cyfnod dwys o ddiwygio’r gyfundrefn addysg. Yma, mae Nerys Defis yn adfyfyrio ar ddatganiadau diweddar gan ddau ffigwr allweddol yn y gyfundrefn honno, ac yn cwestiynu swyddogaeth asesu wrth i gwricwlwm newydd, cyffrous ddatblygu yng Nghymru…
Nid rhywbeth newydd mo arholiadau a phrofion ac erbyn hyn, ar hyd a lled y wlad, mae dechrau’r haf yn dynodi dechrau’r cyfnod arholi.
Yn draddodiadol, rhywbeth yn perthyn i ddisgyblion yn sefyll eu harholiadau Lefel O a Safon Uwch oedd nerfau cyn-arholiad. Erbyn heddiw, mae’r nerfau hynny’n cael eu teimlo gan blant mor ifanc â chwech oed wrth iddynt sefyll y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.
I’r rhai sy’n sefyll arholiadau TGAU neu Safon Uwch mae’r pwysau fel petai’n cael ei dderbyn. Maent yn gymwysterau sydd, ar y cyfan, yn cael eu hystyried yn hanfodol ar gyfer dyfodol llewyrchus.
Mor belled ag y mae’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn y cwestiwn, mae dirnad beth yw barn rhieni ac ysgolion amdanynt dipyn yn anoddach.
Nid proses esmwyth oedd cyflwyno’r Profion Cenedlaethol am y tro cyntaf yn 2013, ac roedd penawdau papur newydd yn cyhoeddi bod y trefniadau’n draed moch yn awgrymu’n gryf bod lle i wella.
Erbyn 2018, mae gweithdrefnau’r Profion Cenedlaethol wedi hen sefydlu, ac mae’r gofidiau gwreiddiol am y gallu i olrhain cynnydd o flwyddyn i flwyddyn wedi eu hateb. Serch hynny, mae gofidiau eraill, megis y llwyth gwaith marcio a’r gwrthdaro rhwng y profion ac athroniaeth y Cyfnod Sylfaen, yn parhau.
Yn 2019, bydd hi’n ddiddorol gweld sut fydd ysgolion yn ymdopi gyda chyflwyniad y profion ar-lein. Bydd y profion hynny yn addasu’r cwestiynau yn ôl anghenion dysgwyr unigol. Does bosib na fydd croeso i hyn, wedi’r cyfan, mae’r diffyg gwahaniaethu o fewn y profion presennol yn un o’u hagweddau mwyaf negyddol.
Erbyn Rhagfyr 2019, byddwn hefyd yn gwybod canlyniadau set arall o brofion, sef astudiaeth y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2018. Yn y gorffennol mae canlyniadau siomedig Cymru yn y profion PISA wedi peri gofid ar hyd coridorau sefydliadau addysg yng Nghymru.
Mewn erthygl ddiweddar, gwnaeth Gareth Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, rybuddio y gallai set arall o ganlyniadau siomedig beryglu’r broses o ddiwygio addysg yng Nghymru a’i thaflu oddi ar y cledrau. Heb os, mae mwy o bwysau nag erioed i ddangos bod safonau yng Nghymru yn codi.
Onid penderfyniad torcalonnus a gwrthgynhyrchiol fyddai rhoi stop ar y diwygiadau cyfredol ar sail cyfres arall o ganlyniadau PISA siomedig?
Yn ôl y Mudiad er Cydweithredu Economaidd a Datblygu (OECD), defnyddiwyd y term ‘reform fatigue’ fel un o’r rhesymau honedig dros system addysg wanllyd Cymru. Serch hynny, mae tystiolaeth y gall diwygio addysg esgor ar ganlyniadau rhagorol os yw’n amserol ac wedi ei gynllunio’n dda.
Ym 1997 dechreuodd Singapore ddiwygio ei system addysg gyda’i gweledigaeth o ‘Ysgolion yn Meddwl, Cenedl yn Dysgu’. Pan ymunodd Singapore â’r arolwg PISA yn 2009, cafodd ei hadnabod fel un o’r gwledydd oedd yn perfformio orau yn y byd. Erbyn yr arlowg PISA diwethaf yn 2015, roedd Singapore ar frig pob un o dri tabl canlyniadau PISA yr OECD.
Wrth gwrs, nid oes gan Singapore hyd yn oed system addysg berffaith ond, heb os, mae’n llwyddiannus ac yn sefydlog, heb arddangos dim o’r gor-ddiwygio sy’n gysylltiedig ag addysg yng Nghymru. Mae hefyd yn system addysg sydd â disgwyliadau uchel o bob un disgybl.
I’r un perwyl, mewn araith ddiweddar a draddodwyd gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mewn seminar yn Yr Athrofa ym mis Ebrill, pwysleisiodd ei gwelediaeth hi a Llywodraeth Cymru o fedru ‘codi safonau i bawb a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad’. Gweledigaeth o sicrhau bod pob disgybl, o bob cefndir a phob ardal yng Nghymru yn meddu ar yr un hawl i addysg o’r radd flaenaf.
Roedd angen degawdau ar Singapore i gyrraedd y nod hwn a llwyddo i eistedd ar frig y tablau addysg rhyngwladol. Pam ddylai Cymru, felly, fod yn wahanol?
Mae angen gweledigaeth hir-dymor i’r newidiadau arfaethedig i system addysg Cymru. Rhaid i ysgolion gael amser i addasu. Yn ogystal, mae angen ymddiried yn ein hysgolion a rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar wahanol ddulliau. Fel rhan o hyn, mae angen parhau gyda’r diwylliant presennol o rannu arfer dda a darparu cefnogaeth rhwng ysgolion.
Yn gyffredinol, ceir teimlad bod y newidiadau i system addysg Cymru yn cael eu croesawi’n fawr – newidiadau sydd, yn eironig ddigon, yn digwydd oherwydd i ddiffygion y system yng Nghymru gael eu hamlygu gan ganlyniadau gwael mewn profion megis y profion PISA.
Mae’r cydsynio a welwyd yn dilyn adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Graham Donaldson yn parhau, ac mae’r cydweithio sydd i’w weld rhwng Llywodraeth Cymru, ei phartneriaid a’r ysgolion arloesi wrth adeiladu’r cwricwlwm newydd yn gyffrous, ac yn newid braf o’r drefn arferol.
Yn ystod ei ymweliad diweddar â Chynhadledd Anelu at Ragoriaeth Yr Athrofa, nododd yr Athro Donaldson nad oedd yn credu i’r diwygiadau diweddaraf i addysg yn yr Alban fod mor effeithiol â’r disgwyl o ganlyniad i or-bwyslais ar addysgu er mwyn ennill cymwysterau.
Tra’n cydnabod bod paratoi ar gyfer arholiadau TGAU a Safon A yn allweddol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4, a bod hyn yn cyfyngu’r addysgu, cred Donaldson bod modd rheoli sut rydym yn trosglwyddo’r cwricwlwm. Yn ogystal, gwnaeth ddarogan mai’r nod yn y pendraw fydd cymwysterau wedi eu harwain gan y cwricwlwm ac a fydd yn adlewyrchu’r cwricwlwm newydd.
Mae’n anochel bod cymariaethau’n cael eu tynnu rhwng Cymru a’r Alban a’u prosesau o ddiwygio addysg ond, fel nododd yr Athro Donaldson yn glir ‘Wales is not Scotland’. Mae Cymru’n torri ei chwys ei hun er mwyn gwella’r system addysg, cwys na chaiff ei llywio gan ganlyniadau unrhyw arholiadau, gobeithio.
Yn ei araith i fyfyrwyr PCYDDS, pwysleisiodd yr Athro Donaldson na ddylid gweld profion fel pwrpas addysg, wedi’r cyfan, ‘tests do not create a love of learning’ meddai.
Mae’n bosib iawn bod cyfnodau anodd ar y gorwel i’r system addysg yng Nghymru, o bosib o ganlyniad i’r arlowg PISA arfaethedig ac, o bosib, o ganlyniad i ffactorau allanol megis newid personél o fewn y Llywodraeth, yn dilyn ymadawiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Er mwyn sicrhau bod Cymru’n llwyddo i gael system addysg ‘sy’n destun balchder cenedlaethol’ yn unol â gweledigaeth Kirsty Williams, rhaid i drefnwyr polisi ar bob lefel sefyll yn gadarn ac ymddiried yn eu hysgolion.
Oes, mae angen i bethau newid ond mae’n anochel na fydd hyn yn digwydd dros nos. Rhaid i ni obeithio na wnaiff profion – o unrhyw fath – lesteirio’r newidiadau hynny.
- Mae Nerys Defis yn ddarlithydd AGA yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant