NewyddionNetherlands Group

Rhoddwyd cipolwg unigryw ar addysg yn yr Iseldiroedd i athrawon o bob cwr o dde Cymru yn ystod ymweliad astudio rhyngwladol â’r Iseldiroedd.

Roedd y daith bum diwrnod yn cynnwys taith o gwmpas tair ysgol, cyfarfod â chynghrair VO-raad o lywodraethwyr ysgol, a briffio ar bolisi gan gynghorwyr y Weinyddiaeth Addysg yn yr Hâg.

Cafodd y cynrychiolwyr gyflwyniad hefyd gan arbenigwyr sy’n arwain y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yn yr Iseldiroedd, lle mae llunwyr polisi’n dilyn trywydd tebyg iawn i’r un sy’n cael ei ddilyn yng Nghymru.

Ym mis Mai cyhoeddwyd amlinelliad o’r cwricwlwm gan gynnwys naw ‘maes dysgu’ a rhoddwyd tan ddiwedd yr haf i athrawon yr Iseldiroedd roi sylwadau ar ddogfennau drafft.

Arweiniwyd yr ymweliad astudio gan y Ganolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CEPRA) yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn rhan o’i Rhaglen Arweinyddiaeth Fyd-eang a gyllidir gan y Cyngor Prydeinig.

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr CEPRA, y rhoddwyd cipolwg diddorol iawn i aelodau’r ymweliad astudio ar un o systemau addysg gorau’r byd.

“Roedd amserlen lawn yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, lle rhoddwyd cyfle i’r ymwelwyr sgwrsio’n benagored â phenaethiaid, athrawon a disgyblion,” meddai.

“Roedd hi’n amlwg o’r sgyrsiau hynny fod Cymru a’r Iseldiroedd yn wynebu nifer o heriau cyffredin, yn enwedig y rheini sy’n gysylltiedig â thegwch, asesu ac atebolrwydd.

“Mae diwygio’r cwricwlwm yn yr Iseldiroedd yn cyfateb yn fanwl i’r hyn sy’n cael ei wneud yng Nghymru, a byddai’n fuddiol i Lywodraeth Cymru ddilyn y datblygiadau wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.

“Mae llawer i’w ddysgu o brofiadau’r Iseldiroedd, ac roedd hi’n galonogol dysgu nad yw Cymru ar ei phen ei hun wrth iddi weithio’i ffordd drwy broblemau parhaol er lles pawb yn y byd addysg.

“Ond er bod yr Iseldiroedd yn rhagori mewn llawer o feysydd, roedd hi’n amlwg y gall pobl gyfatebol i ni yn Utrecht, yr Hâg ac Almere ddysgu o’r hyn rydym ni’n ei wneud yng Nghymru hefyd.”

Cymerodd athrawon o ardaloedd GCA, ERW a CSC ran yn yr ymweliad a ganolbwyntiai ar ddiwygio’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol ac addysg athrawon.

Yn ogystal â dysgu gan gydweithwyr yn yr Iseldiroedd, roedd y daith yn gyfle i’r athrawon ar daith ymgymryd â deialog broffesiynol ynghylch nifer o fentrau allweddol sy’n cael eu gweithredu yng Nghymru.

Meddai Kelly Gipson, Uwch Fentor yn Ysgol Pentrehafod, Abertawe: “Roedd hi’n ddiddorol dros ben gweld sut roedd y diwygiadau mewn hyfforddi athrawon yn yr Iseldiroedd yn adlewyrchu ein diwygiadau ni mewn nifer o agweddau, a’u bod nhw’n cael eu gyrru gan yr un ysgogiad, sef argyfwng recriwtio athrawon.

“Fel gwlad sy’n cael ei hystyried yn fyd-eang yn un o arweinwyr y byd ym maes addysg, roedd hi’n galonogol gweld bod yr hyn maen nhw’n ei hystyried yn arfer gorau’n nodweddion cyffredin rhaglen AGA gyffrous newydd Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa a fydd yn cael ei lansio yn yr hydref.

“Yn yr un modd, o ran diwygio’r cwricwlwm, roedd hi’n ddiddorol nodi’r pethau tebyg rhyngddyn nhw a ni. O ystyried y bwlch eang rhwng yr Iseldiroedd a ni yn nhabl cynghrair y byd ar gyfer addysg, roedd hi’n galonogol nodi faint o gynnydd rydym ni wedi’i wneud eisoes a’r ffaith eu bod nhw’n dilyn llwybrau ymholi tebyg iawn.”

Meddai Jamie Goddard, pennaeth cynorthwyol Ysgol Cas-gwent, Sir Fynwy: “Rhoddodd yr ymweliad gyfle unigryw i gael dirnadaeth o ddysgu proffesiynol, cwricwlwm newydd a hyfforddiant cychwynnol athrawon yn yr Iseldiroedd.

“Roedd yn fraint gweld â’n llygaid ein hunain system addysgol tra effeithiol a llwyddiannus yn yr Iseldiroedd a thrwy gwrdd â gwneuthurwyr polisi allweddol, ynghyd ag athrawon mewn ysgolion, cawsom nifer o syniadau i ddod nôl â nhw gyda ni a’u defnyddio i wella dysgu gydol oes yng Nghymru.”

Cyhoeddir adroddiad a fydd yn nodi canfyddiadau’r grŵp ar-lein, a bwriedir cynnal symposiwm yn cynnwys cyfraniadau gan yr holl gynrychiolwyr yn yr hydref.

Leave a Reply