Bydd un o brif systemau addysg Ewrop yn ffocws symposiwm arbennig yng Nghaerdydd yn yr hydref eleni.
Bydd Canolfan Adolygu a Dadansoddi Addysg (CEPRA) Yr Athrofa yn cyflwyno canfyddiad unigryw o addysg yn yr Iseldiroedd yn ei ddigwyddiad ‘Mynd yn fyd-eang: Addysgu y tu allan i’r bocs’ ddydd Mawrth, 12 Tachwedd.
Cynhelir y symposiwm Tramshed Tech, ger Gorsaf Reilffordd Canol Caerdydd, a bydd yn cynnwys cyfraniadau gan y grŵp o’r gynrychiolaeth yr Athrofa a ymwelodd â’r Iseldiroedd ym mis Mehefin.
Roedd ymweliad astudio a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig yn cynnwys taith o gwmpas tair ysgol, cyfarfod â chlymblaid llywodraethwyr ysgol VO-raad, a briffiad polisi gan gynghorwyr i’r Gweinidog Addysg yn yr Hag.
Cafodd y cynrychiolwyr hefyd gyflwyniad gan arbenigwyr sy’n arwain y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yn yr Iseldiroedd, lle mae llunwyr polisi yn dilyn llwybr tebyg iawn i’r un a ddilynir yng Nghymru.
Cymerodd athrawon o ranbarthau EAS, ERW a CSC ran yn yr ymweliad, a ganolbwyntiodd ar ddiwygio’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol ac addysg athrawon.
Meddai Gareth Evans, Cyfarwyddwr CEPRA ac arweinydd y gynrychiolaeth: “Cafodd arweinwyr yr astudiaeth gipolwg hynod ddiddorol ar un o brif systemau addysg Ewrop gan randdeiliaid allweddol o bob cwr i’r Iseldiroedd.
“Bydd digwyddiad mis Tachwedd yn gyfle i’r rhai sydd ar y grŵp rannu beth maen nhw wedi ei ddysgu â chydweithwyr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ledu’r sgwrs ar rai o’r prif faterion gerbron addysgwyr yng Nghymru heddiw.”
Rhan o Gyfres Seminarau’r Athrofa, mae Mynd yn Fyd-eang: Addysgu y tu allan i’r bocs yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i ysgolion partner a chyfeillion Yr Athrofa.
Gofynnir i westeion gyrraedd o 5.30pm. ymlaen er mwyn dechrau am 6pm.
Trefnir y bydd copïau dwyieithog o adroddiad Yr Athrofa ar addysg yn yr iseldiroedd ar gael ar y noson.
I gael rhagor o fanylion ac i gadarnhau eich presenoldeb, cysylltwch â Lesley Morgan yn lesley.morgan@pcydds.ac.uk