Cyflwynwyd i’r Ysgrifennydd Addysg ymagwedd newydd radical at addysg athrawon

Yn ystod ei hymweliad diweddar â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cyflwynwyd i’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ymagwedd newydd radical at addysg athrawon. Bu’r Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes a’r Athro Dylan Jones, cyfarwyddwr Yr Athrofa,  yn amlinellu eu gweledigaeth uchelgeisiol i rymuso athrawon ac i gefnogi ysgolion i ddatblygu’r gweithlu addysg. Cyflwynodd yr…

Croesewir adroddiad newydd Comisiwn Addysg Cymru gan Ysgrifennydd Y Cabinet

Mae clymblaid flaenllaw o arbenigwyr wedi rhoi eu cynigion ar sut orau i wella system addysg Cymru. Yn ei adroddiad sefydlu i’r sector, gwnaeth Comisiwn Addysg Cymru annog gweinidogion i ystyried y ‘strwythurau ymarferol’ sydd eu hangen ar gyfer cefnogi gwella ysgolion, gan argymell datblygu “ fframwaith arweiniol” er mwyn tanategu amcanion cenedlaethol. Meddai’r Comisiwn,…

Gweinidog yn cefnogi cydweithio fel yr allwedd i lwyddiant

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i’w champws yng Nghaerfyrddin i drafod y cyfleoedd sydd ar gael drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector addysg uwch. Cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru a’r Brifysgol, trwy weithio gyda’i gilydd, sicrhau’r defnydd gorau posibl o adnoddau a meithrin…

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dod ag arweinwyr addysgol at ei gilydd i gefnogi gwella ysgolion yng Nghymru

Mae rhai o feddylwyr addysgol mwyaf blaenllaw’r byd wedi dod at ei gilydd i gefnogi gwella ysgolion yng Nghymru. Mae Comisiwn Addysg Cymru wedi cael ei sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i helpu hwyluso gwelliannau mewn dysgu ac addysgu. Gofynnwyd i’r aelodau, pob un â’i record o lwyddiant eithriadol yn eu meysydd…

Ymagwedd newydd at fathemateg yn rhan bwysig o’r hafaliad

Dr Sofya Lyakhova a Dr Howard Tanner yn ystyried datblygiad Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg…   Mae’r cyhoeddiad diweddar (3.11.16) gan yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, ynghylch creu Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg i’w groesawu gan rieni, athrawon a myfyrwyr yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod economaidd cythryblus hwn, mae’n briodol iawn…

Pens

Ymchwil yn bwrw goleuni newydd ar wythnosau ysgol anghymesur

Cyhoeddwyd adroddiad sy’n tynnu sylw at y manteision a’r heriau sy’n deillio o wythnosau ysgol anghymesur gan Yr Athrofa: Canolfan Addysg (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Mae Gwerth wythnosau ysgol anghymesur: Gwersi a ddysgwyd o ysgolion yng Nghymru yn adeiladu ar agenda diwygio addysg uchelgeisiol y genedl, ac yn cynnig myfyrdodau unigryw ar ddau…