woman in jeans walking

Cynnydd yn safle’r Athrofa yn y tablau

Mae Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cymryd camau mawr i fyny dau dabl cynghrair blaenllaw. Mae’r Guardian University Guide a’r Complete University Guide ill dau’n dangos gwelliannau sylweddol. Yn nhabl y Guardian 2019, gosodwyd y Drindod Dewi Sant yn safle 50 am addysg – i fyny 23 safle o’r ymddangosiad cyntaf…

Children Playing

Dilyniant Dysgu i Gymru

Mae’r Prosiect CAMAU wedi cyhoeddi Adroddiad Ymchwil sylweddol heddiw sy’n llywio agwedd hanfodol ar ddiwygio’r cwricwlwm i Gymru. Nod y prosiect CAMAU, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Glasgow, yw meithrin dealltwriaeth gyffredin o ‘ddilyniant’ yn arferion dysgu plant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 mlwydd…

Group

Anelu at Ragoriaeth – Graham Donaldson yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon

Gwahoddwyd un o ffigurau mwyaf blaenllaw byd addysg Cymru i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon. Rhoddwyd anerchiad gan yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr addysg ac awdur adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ Llywodraeth Cymru, i gynulleidfa o dros 600 o athrawon cyfredol, yn ogystal ag athrawon y dyfodol, yn Yr Athrofa, Athrofa…

Blackboard

Cyfri’r diwrnodau tan i’r gynhadledd fathemateg genedlaethol gael ei chynnal ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Cynhelir cynhadledd genedlaethol bwysig, sy’n canolbwyntio ar ymchwil ym maes mathemateg, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ystod yr haf. Dyma’r tro cyntaf i’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Ymchwil i Ddysgu Mathemateg (British Society for Research into Learning Mathematics – BSRLM) gynnal ei chynhadledd haf yng Nghymru. Bydd Ysgol Fusnes PCYDDS, sydd…

Graham Donaldson Speaking

Graham Donaldson yn fyw yn yr Athrofa

Yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr ar y cwricwlwm, yw’r prif siaradwr yn y gynhadledd Anelu at Ragoriaeth ddydd Iau. Trefnwyd y gynhadledd Anelu at Ragoriaeth gan yr Athrofa i ddathlu’r arfer rhagorol sy’n digwydd yn ysgolion Cymru ac mae’n cynnwys cyflwyniadau gan ddarlithwyr, staff ysgolion a llu o athrawon dawnus dan hyfforddiant. Ac yntau’n un…